
Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Mark Isherwood, yn pryderu bod cartrefi yng Ngogledd Cymru yn dal i dalu’r Ffioedd Sefydlog uchaf yn y DU am ynni ac mae wedi codi’r mater yn y Senedd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
Dywedodd fod y mater wedi cael ei drafod yng nghyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, pan nododd fod Gogledd Cymru yn gynhyrchydd ac allforiwr ynni, a phan ofynnodd i reoleiddiwr ynni Prydain, Ofgem, a oedden nhw yn eu gwaith ar amrywiadau rhanbarthol, yn ystyried sut y gall rhanbarthau sydd â’r Ffioedd Sefydlog uchaf, ac sydd hefyd yn gynhyrchwyr ynni net, elwa ar hynny yn eu biliau.
Gofynnodd i Ysgrifennydd y Cabinet pa ystyriaeth y mae hi wedi’i rhoi i ymateb Ofgem a ddywedodd “ar hyn o bryd, does dim unrhyw fudd rhanbarthol ar gyfanwerthu, ond cewch gost ranbarthol ar y rhwydwaith”.
Dywedodd:
“Fel y gwnaethom ei drafod yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yr wythnos diwethaf, aelwydydd gogledd Cymru a Glannau Mersi sy’n dal i dalu’r taliadau sefydlog uchaf yn y DU am ynni, ni waeth faint y maent yn ei ddefnyddio
“Ar ôl ichi orfod gadael y cyfarfod, dywedodd Ofgem wrthym fod hyn yn rhannol oherwydd dwysedd y rhwydwaith, ac yn rhannol oherwydd nodweddion cynllunio gogledd Cymru, a bod yr amrywiad rhanbarthol hwn yn rhywbeth roeddent yn ei edrych arno.
“Ar ôl nodi bod gogledd Cymru yn gynhyrchydd ac yn allforiwr ynni, gofynnais i Ofgem a ydynt yn ystyried sut y gall y rhanbarthau sydd â’r taliadau sefydlog uchaf, sydd hefyd yn gynhyrchwyr ynni net, elwa ar hynny yn eu biliau
“Yn eich trafodaethau ag Ofgem, pa ystyriaeth y byddwch chi’n ei rhoi felly i’w hymateb nad ydych, ar hyn o bryd, yn cael unrhyw fudd rhanbarthol ar gyfanwerthu ond eich bod yn cael cost ranbarthol ar y rhwydwaith? Rwy’n credu eu bod wedi dweud, ‘Wyddoch chi, byddem yn ceisio dod â’r ddau benderfyniad hynny yn unol â’i gilydd.’
Wrth ymateb, diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i Mr Isherwood am y rôl y mae’n ei chwarae fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, ac “am yr ymgysylltu a wnewch gyda’r sefydliadau sydd â’r holl dystiolaeth, sy’n gweithio ar y rheng flaen
Ychwanegodd:
“Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn eich bod wedi cael y drafodaeth honno, eich bod wedi cael y dirprwy gyfarwyddwr yno o Ofgem, a bod gennych arbenigwyr o amgylch y bwrdd—y rheini ar y rheng flaen. Felly, byddaf yn ystyried hyn, o ran y cwestiynau a’r materion a godwyd gennych ac y buoch yn eu harchwilio gyda hwy, a’r amrywio rhanbarthol a chost ranbarthol ar y rhwydwaith. Rwy’n ddiolchgar am hynny.”