
Gyda gyrwyr sy'n dysgu yn y Gogledd yn cael trafferth cael profion gyrru, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru pa gamau y mae'n eu cymryd i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y mater.
Wrth godi'r mater yng nghyfarfod y Senedd heddiw, cyfeiriodd Mr Isherwood at bryderon Cymdeithas Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy Gogledd Cymru, NWADIA, a gofynnodd i Ysgrifennydd y Cabinet ymgysylltu â nhw ynglŷn â'r problemau y mae gyrwyr sy'n dysgu'n eu hwynebu wrth drefnu prawf.
Mr Isherwood meddai:
“Mae'n bron i wyth mis ers i Gymdeithas Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy Gogledd Cymru, NWADIA, anfon copi at ASau gogledd Cymru gyntaf o'u gohebiaeth at yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, DVSA, yn nodi nad oedd y gostyngiad i restrau aros ar gyfer ymgeiswyr i saith wythnos y cyfeirioch chi ato wedi'i gyflawni eto. Wyth mis yn ôl.
“Wrth ymateb, nododd y DVSA fod amseroedd aros mis Awst y llynedd yn y rhanbarth yn amrywio o 10.5 wythnos yn Wrecsam i 18.5 yn y Rhyl. Roedd gohebiaeth yr wythnos diwethaf gan NWADIA i'r DVSA yn edrych ymlaen at gyfarfod â hwy'n rhithwir heno, a nododd, er enghraifft, iddynt glywed bod rhestr aros mis Chwefror yn 7.6 wythnos yn y Rhyl, 15.4 ym Mangor, a 8.1 yng Nghymru yn gyffredinol, pan fo'r realiti i'w weld yn wahanol iawn, a gofynnodd, er enghraifft, a yw'r newidiadau i'r prawf yn tynnu sylw oddi wrth ddatrys sefyllfa'r prawf a'r problemau gyda'r systemau archebu, ac a yw'r DVSA yn cael cyllideb gan Lywodraeth y DU y maent yn ei dyrannu fel y gwelant yn dda. Felly, a wnewch chi ymgysylltu â NWADIA a thrafod eu pryderon gyda Llywodraeth y DU?”
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i gwrdd â nhw, meddai:
“Mae’n eithaf amlwg o’r hyn y mae’r Aelodau’n ei godi heddiw ei bod yn ymddangos bod anghysondeb rhwng y ffigurau swyddogol a’r hyn yr ydym yn ei glywed o ffynonellau eraill o ran yr amser aros cyfartalog. Rwy’n meddwl bod angen i ni ymchwilio i’r ffigurau hynny a gwirio pa rai sydd fwyaf dibynadwy, a sicrhau bod y ffigurau’n cynrychioli’n llawn y dechnoleg honno sy’n cael ei defnyddio gan drydydd partïon i werthu ymlaen slotiau archebu a gwneud elw o wneud i bobl aros, a dweud y gwir. Felly, byddaf yn cyfarfod â’r Aelodau ac yn sicrhau pa ddata sy’n fwyaf dibynadwy, ac yn rhannu’r canfyddiadau hynny gydag Aelodau.”