Cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi siarad am yr angen brys yng Nghymru i uwchraddio cartrefi sy’n dlawd o ran tanwydd.
Yn y Datganiad Busnes heddiw, tynnodd Mr Isherwood, sy'n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, sylw at y nifer frawychus o aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, gan ddweud fod angen gweithredu ar unwaith gan fod disgwyl y bydd prisiau ynni’n aros yn uchel.
Wrth alw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa, dywedodd:
“Yfory fydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action, ac fe fyddaf innau'n cadeirio cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni.
“Amcangyfrifir bod chwarter yr aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys mwy na phedair o bob pum aelwyd sydd ar incwm is. Roedd arolwg newydd a gyhoeddwyd gan National Energy Action Cymru yn canfod bod chwech o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn debygol o gyfyngu ar eu defnydd o ynni yn y tri mis nesaf—cyfradd uwch o rai sydd ag asthma neu gyflwr iechyd meddwl.
“Gyda phrisiau ynni yn debygol o aros yn uchel, mae llawer mewn trafferthion, yn cyfyngu ar eu gwres ac yn drymlwythog gan gyfraddau llethol o ddyledion ynni. Mae angen taer yng Nghymru i uwchraddio cartrefi tlawd o ran tanwydd.
Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gyflwyno ei chynllun Cartrefi Cynnes yn llawn, ac fe ddylai pwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf yng Nghymru fuddsoddi'r cyllid canlyniadol llawn i helpu i leihau biliau, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a chyflawni effeithlonrwydd ynni. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.”
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS:
“Rwy'n siŵr y bydd digwyddiad National Energy Action yn bwysig iawn wrth i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Wrth gwrs, mae cost ynni yn dal i fod yn ystyfnig o uchel, gyda chyflenwyr ynni yn gorfod cymryd cyfrifoldeb yn amlwg ar gyfer cefnogi eu cwsmeriaid gyda chynlluniau talu teg a fforddiadwy a chymorth brys lle byddai angen.”