
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei chynigion ariannu a fyddai'n lleihau cyngor a chymorth atal digartrefedd.
Ar ôl gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai yng nghyfarfod Senedd Cymru heddiw pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl ddigartref, cododd Mr Isherwood bryderon am gyllid arfaethedig Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd ataliol.
Dywedodd:
“Mewn 88 y cant o'u hachosion, llwyddodd Shelter Cymru i atal digartrefedd, ac mewn 59 y cant, i gadw unigolion a theuluoedd yn eu cartref gwreiddiol. Fodd bynnag, maent yn pryderu am fanylion llinell wariant cymorth ac atal digartrefedd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru y cyfeirioch chi ati.
“Maent yn darparu cyngor a chymorth sylweddol yng Nghymru drwy'r grant atal digartrefedd, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr un llinell wariant gyffredinol â'r grant cymorth tai, ac yn nodi bod yna arwyddion y bydd grantiau nad ydynt yn grantiau cymorth tai yn wynebu toriadau mewn termau real.
“Byddai grant arian gwastad yn golygu llai o gymorth i atal digartrefedd am ddwy flynedd yn olynol, a fydd, ynghyd â chost y cynnydd i yswiriant gwladol, yn galw am gyfanswm arbediad cost sy'n cyfateb i ddau gynghorydd llawn amser a gwerth oddeutu 360 o aelwydydd yn llai o gapasiti cynghori.
“Er bod Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd, mae'n cynnig lleihau ei chefnogaeth i wasanaethau ataliol.
“Sut ydych chi felly'n ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r holl grantiau o fewn y llinell wariant cymorth ac atal digartrefedd?”
Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Rwy'n deall cymhlethdod y gyllideb, ond rydym yn gwneud yr hyn a allwn, gan roi atal yn gyntaf yma a chefnogi gwasanaethau ataliol".
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Mr Isherwood:
“Mae'r gwasanaethau hyn yn hollbwysig, a byddai Llywodraeth Cymru yn fyrbwyll ac yn ffôl pe na bai'n eu diogelu.”