
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod gwybodaeth a chefnogaeth yn cael ei darparu i ddisgyblion a theuluoedd am y ‘Diwylliant Incel’ gofidus a amlygwyd yn y gyfres Netflix ddiweddar ‘Adolescence’.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddoe, dywedodd Mr Isherwood nad oedd erioed wedi clywed am y term ‘Diwylliant Incel’ nes iddo wylio’r gyfres a galwodd am ymyrraeth gynnar mewn ysgolion ac yn y cartref.
Galwodd ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnwys Diwylliant ‘Incel’ o fewn y Rhaglen Perthnasoedd Iach ‘Sbectrwm’ a gyflwynir mewn ysgolion a gofynnodd pa gamau y bydd hi’n eu cymryd i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu hysbysu’n well.
Meddai:
“Fel rhiant a thaid i ferched a bechgyn, mae diwylliant ‘incel’ yn peri cryn bryder i mi. Tan imi wylio’r gyfres Adolescence, nid oeddwn erioed wedi clywed am y term ‘diwylliant incel’, ond bellach, gwn ei fod yn fyr am ‘involuntary celibate’, ac er i’r term gael ei ddatblygu’n wreiddiol gan fenyw hŷn fel peth cadarnhaol, mae bellach yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at fforymau ar-lein lle mae dynion yn trafod teimlo dicter a chwerwder tuag at fenywod am eu bod yn credu nad yw menywod yn eu gweld yn ddeniadol.
“Rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi wrth weld yr eironi yn hyn, lle mae dynion yn eu harddegau a dynion sy’n oedolion yn gwneud eu hunain yn anneniadol i fenywod drwy wneud hyn.
“Pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd i weithio, er enghraifft, gyda Hafan Cymru i drafod diwylliant ‘incel’ yn sesiynau rhaglen perthnasoedd iach Sbectrwm a ddarperir mewn ysgolion, yr wyf wedi eu mynychu yn y gorffennol, ac i ehangu cyrhaeddiad y rhaglen honno? A pha gamau y gallwch ac y byddwch chi’n eu cymryd i ddarparu gwybodaeth a chymorth i deuluoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar yn y cartref?”
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
“Mae gennym ein darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mae Sbectrwm yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Ni sy’n ariannu prosiect Sbectrwm ac mae’n cefnogi ysgolion ledled Cymru gyda gwersi ar berthnasoedd iach, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond rwy’n edrych ar beth arall y gallwn ei wneud o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru. Rwy’n ystyried ein rhaglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru ar hyn o bryd, felly rwy’n edrych drwy hynny i weld beth arall y gallwn ei wneud i wella’r cymorth i ysgolion yn y maes hwn.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
“Er fy mod yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried gwneud mwy i gefnogi ysgolion, mae angen cefnogaeth ar deuluoedd hefyd. Mae’r gyfres Adolescence yn tynnu sylw at realiti gofidus, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi stop arno i ddiogelu ein pobl ifanc.”