Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Annog Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid teg ar gyfer gofal cymdeithasol yn y Gogledd

  • Tweet
Dydd Mawrth, 7 Hydref, 2025
  • Local News

Gyda Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi datgan bod Gofal Argyfwng yn y Gogledd mewn "sefyllfa argyfyngus", mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw'r prynhawn yma am Ddatganiad brys gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ariannu Gofal Cymdeithasol yn y Gogledd.

Wrth siarad yn y Datganiad Busnes heddiw, tynnodd Mr Isherwood sylw at bryderon a godwyd gan Fforwm Gofal Cymru ynghylch ffioedd Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer y Gogledd yn 2025/26 a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol "i ddatrys yr argyfwng hwn".

Meddai:

“Yr wythnos diwethaf, ar ôl i gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfaddef bod gofal brys yn y gogledd mewn sefyllfa argyfyngus, derbyniodd Aelodau'r gogledd lythyr pryderus gan Fforwm Gofal Cymru ynglŷn â chyllid gofal cymdeithasol yn y gogledd.

“Fel maen nhw'n dweud, mae cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer rhyddhau cleifion yn amserol. Maen nhw'n ychwanegu, fodd bynnag, eu bod nhw wedi profi camweithrediad sylweddol o fewn y bwrdd iechyd yn y maes hwn.

“Y cynnydd o 4.72 y cant ar gyfer ffioedd gofal iechyd parhaus yn 2025-26 yw'r isaf yng Nghymru ac mae'n annigonol yn sgil y ffaith bod cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr wedi codi.

“Er bod angen cynnydd o 7 y cant i gynnal safonau'r llynedd, mae'r ffaith bod y bwrdd iechyd wedi gwrthod mabwysiadu methodoleg costio gofal iechyd parhaus genedlaethol wedi arwain at ganlyniadau annheg, gan gynnwys ffioedd is yng Nghonwy, lle mae anghenion gofal wedi cynyddu.

“Mae'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn nodi bod gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i dalu gwir gost gofal— ac mae byrddau iechyd eraill wedi cymhwyso codiadau yn agosach at 6 y cant.

“Felly, mae Fforwm Gofal Cymru yn ceisio ymgysylltiad adeiladol i ddatrys yr argyfwng hwn ac yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn er mwyn sicrhau cyllid teg a chanlyniadau gwell i gleifion. Rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.”

Wrth ymateb, methodd y Trefnydd â mynd i'r afael â'r mater penodol yn y Gogledd a godwyd gan Fforwm Gofal Cymru. Yn hytrach, dywedodd:

“Wrth gwrs, mae hyn yn gyfrifoldeb traws-lywodraethol ac ar draws byrddau iechyd a llywodraeth leol o ran mynd i'r afael â'r materion hyn, ac rwy'n gwybod bod ein holl fyrddau iechyd yn ymgysylltu'n agos â'r awdurdodau lleol o ran darparu gofal cymdeithasol, ac, wrth gwrs, mae ein Hysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'n Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ymgysylltu'n frwd, yn gweithio i helpu i sicrhau bod darpariaeth gofal cymdeithasol nid yn unig yn gallu bod yn amserol ac yn effeithiol, ond yn gallu diwallu anghenion y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.”

 

 

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Cefnogi Lleisiau Mwy Amrywiol ym Mywyd Cyhoeddus Cymru

Dydd Gwener, 21 Tachwedd, 2025
Yn siarad yn y digwyddiad 'Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal' yn y Senedd yr wythnos diwethaf, pwysleisiodd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, bwysigrwydd cynrychiolaeth, cyfranogiad y cyhoedd, a mentora i gefnogi lleisiau mwy amrywiol ym mywyd cyhoeddus Cymru.Mae 'Pŵer Cyfartal Llais

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree