
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi beirniadu Llywodraeth Lafur y DU yn hallt am daro cyflogwyr gyda threth ar swyddi a threth ar ffermydd teuluol, ac wedi galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i wthio am wrthdroi'r ddau bolisi.
Yng Nghwestiynau’r Llefarydd i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, cyfeiriodd Mr Isherwood at y ffaith bod yr economi wedi crebachu, a hyder busnesau yn isel, a gofynnodd pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau niweidiol eu cydweithwyr yn San Steffan.
Meddai:
“Rwyf am ddechrau drwy edrych ar y ffeithiau. Ffaith 1: mae gwefan Llywodraeth y DU ei hun yn nodi mai,
'Twf economaidd yw prif genhadaeth y llywodraeth.'
“Ffaith 2: mae'r ffigurau economaidd diweddaraf wedi dangos bod yr economi mewn gwirionedd wedi crebachu ym mis Ionawr. Er gwaethaf y nod o dwf, mae'n amlwg nad oedd cyllideb y Canghellor yn gyllideb ar gyfer twf o gwbl, oedd hi? Gofynnaf i chi, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau niweidiol eu plaid yn San Steffan ar ben arall yr M4?
Ychwanegodd:
“Etifeddodd Llywodraeth y DU yr economi a dyfodd gyflymaf yn y G7 a lefelau diffyg a oedd yn 40 y cant o'r hyn a etifeddwyd yn 2010 gan Lywodraeth y DU—ffaith. Wrth gwrs, gwyddom pam fod yr economi wedi crebachu. Mae hyder busnes yn isel, ac mae ein mentrau bach a chanolig eu maint bellach yn llai tebygol o logi neu fuddsoddi. Ac wrth gwrs, mae economi sy'n crebachu yn golygu refeniw treth is, sy'n golygu llai o arian i'w wario, heb wariant cyhoeddus uwch, a fydd yn cynyddu chwyddiant a lefelau cost ac yn arwain at doriadau yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, dangosodd adroddiad diweddaraf KPMG fod busnesau wedi gwneud sylwadau ar oedi neu gwtogi cynlluniau llogi oherwydd y rhagolygon economaidd gwan a chostau cynyddol o ran y gyflogres, sydd ar y ffordd er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Lafur y DU wedi etifeddu’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7
“Gyda’r Canghellor i gyhoeddi mini-gyllideb yr wythnos nesaf i geisio cywiro llwybr economi’r DU, pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i bwyso am wrthdroi naill ai’r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr neu'r dreth ar ffermydd teuluol er mwyn helpu i adfer hyder a buddsoddiad busnesau?
Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ein bod “yn sicr yn mynd i'r cyfeiriad iawn o ran hyder busnes”.
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Mae hyder busnes, fel y nodwch, yn allweddol, yn enwedig o ystyried mai yng Nghymru y mae'r cyflogau isaf y pen, y diweithdra uchaf y pen, ac ati. Rydym eisoes yn gweld BP ac Equinor yn lleihau ac yn haneru eu buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, gyda'r pwyslais yn cael ei roi yn hytrach ar olew a nwy. Mae'n amlwg y bydd y diwydiannau etifeddol yma yn y tymor hir, gan y byddwn yn dibynnu ar olew am ddegawdau i ddod wrth gwrs. Ond gyda’r cyhoeddiadau hyn yn lleihau'r cyllid ar gyfer ynni adnewyddadwy, heblaw am greu grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer ynni gwynt ar y môr, pa gamau eraill, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu, er enghraifft, datblygiadau ffermydd gwynt arnofiol ar y môr?