
Mae’r AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi siarad am ei brofiad ei hun fel claf mewn ysbyty yn y gogledd ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â staff rheng flaen y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau bod newidiadau mawr eu hangen yn cael eu gwneud.
Wrth ymateb i'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr", canmolodd Mr Isherwood y staff "gwych" a ddeliodd ag ef pan oedd yn glaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond amlinellodd y problemau a welodd ac a gafodd wybod amdanyn nhw gan staff yn ystod ei arhosiad.
O ganlyniad, anogodd Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblemau yn y Bwrdd Iechyd cythryblus drwy ymgysylltu â'r rhai ar y rheng flaen.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Fe dreuliais i Nos Galan yn adran damweiniau ac achosion brys Maelor Wrecsam fel claf. Rhaid i mi ddechrau drwy ddweud, pan gyrhaeddais i ac o'r eiliad y cyrhaeddais, roedd y staff i gyd yn wych
“Fe eisteddais i yn yr ystafell aros lawn, roedd y sgrin ar y wal yn dweud bod hanner awr o aros ar gyfer brysbennu, yna dwy awr a hanner o aros i gael triniaeth. Fe ges i fy mrysbennu ar ôl hanner awr, ac fe ges i wybod, 'Anwybyddwch y sgrin ar y wal, mae hi'n o leiaf wyth awr o aros i gael triniaeth.' Yn y pen draw, fe ges i fy nerbyn i'r ward trawma mawr gan dreulio'r nos ar droli yno. Roedd yn rhaid i mi ofyn am flanced am 3 o'r gloch y bore. Mae'n debyg mai fi oedd y person ieuengaf ar y ward y noson honno. Fe wnes i sôn wrth gardiolegydd bod yn rhaid ei fod yn arbennig o wael gan mai'r flwyddyn newydd ydoedd, ac fe ddywedodd ef, 'Na, dydy hyn ddim yn eithriadol.'
“Roeddwn i hefyd yn bresennol yn y sesiwn friffio i Aelodau o’r Senedd ar 20 Chwefror gan y sefydliad ymgyrchu EveryDoctor, a oedd yn cynnwys tystiolaeth bwerus gan un o feddygon ymgynghorol meddygaeth frys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda ffeithiau pwysig a gwybodaeth gyd-destunol a'u hesboniad nhw o'r hyn sydd angen newid er mwyn diogelu bywydau a chefnogi staff y GIG.
“Eglurodd sut roedd yn rhaid iddi hi ei hun hyd yn oed chwilio'r ysbyty am drolïau pan ddylai fod yn trin cleifion ar adegau pan oedd ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys.
“Felly, y tu ôl i'r sicrwydd rydych chi'n ei roi, pryd fyddwch chi'n dechrau ymgysylltu â staff rheng flaen y GIG o'r diwedd, fel y rhai y gwnaethom glywed ganddyn nhw ac y cyfeiriais i atyn nhw, er mwyn nodi'r hyn sydd wir angen newid a sut i gyflawni hyn?”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fod eisoes yn ymgysylltu â staff rheng flaen y GIG yng Ngogledd Cymru. Os yw hyn yn wir, yna mae'n fwy pryderus fyth bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dal i dynnu sylw at y gwelliannau sydd wir eu hangen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr!"