Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) i ddod yn ddeddfwriaeth yn ystod y tymor hwn o'r Senedd

  • Tweet
Dydd Mawrth, 29 Ebrill, 2025
  • Local News
Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) i ddod yn ddeddfwriaeth yn ystod y tymor hwn o'r Senedd

Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweindog Cyflawni, Julie James AS, am amser deddfwriaethol i fwrw ymlaen â'i Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) drwy'r camau deddfwriaethol cyn diwedd tymor y Senedd hwn (Ebrill 2026).

Cododd Mr Isherwood y mater yn y Siambr yn ystod cyfarfod y Senedd heddiw, yn dilyn Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol, pan alwodd hefyd am fesurau i sicrhau bod y Bil yn mynd ymhellach nag unrhyw ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain arall yn y DU. 

Gan bwysleisio'r angen am y ddeddfwriaeth newydd, cyfeiriodd at ddyn Byddar sy'n byw ger yr Wyddgrug a fu farw o ganser gan eiferch yn dweud fod diffyg darpariaeth iaith arwyddion difrifol wedi effeithio ar ei ofal.

Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd Mr Isherwood:

“Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, eich hunan, am fy ngwahodd i gyfres o gyfarfodydd adeiladol ynglŷn â'm Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) dros y misoedd diwethaf. Fel y gwyddoch chi, bydd y Bil fel y'i drafftiwyd bellach yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo, cefnogi ac adrodd ar y defnydd o BSL ledled Cymru.

“Mae'r Ddeddf yn amlinellu fframwaith cynhwysfawr, gan gynnwys paratoi strategaeth BSL, canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus a chreu cynlluniau BSL ar gyfer sefydliadau cyhoeddus allweddol. Mae hefyd yn gofyn am benodi cynghorydd BSL statudol a fydd yn cynghori Gweinidogion Cymru.

“A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau ei chytundeb gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol a minnau y byddai'r cynghorydd hwn yn ddefnyddiwr BSL ei hun ac y byddai ganddo'r pŵer i benodi panel cynghori BSL, a fyddai'n golygu y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn mynd ymhellach nag unrhyw ddeddfwriaeth BSL arall yn y DU?

“Amlygwyd yr angen am y ddeddfwriaeth hon unwaith eto gan yr adroddiadau yr wythnos diwethaf am y dyn byddar a oedd yn byw ger yr Wyddgrug a fu farw o ganser ac y dywedodd ei ferch fod diffyg darpariaeth iaith arwyddion difrifol yn effeithio ar ei ofal.

“Bydd y ddeddfwriaeth iaith hon yn helpu i wneud Cymru yn lle mwy cynhwysol i ddefnyddwyr BSL, gan eu galluogi i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a chael mynediad at wasanaethau hanfodol.

“Yn olaf, felly, a fydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn cadarnhau y bydd amser deddfwriaethol ar gael yng ngweddill tymor y Senedd hon i ganiatáu i'm Bil symud ymlaen trwy'r cyfnodau deddfwriaethol? A yw hi'n cytuno bod yn rhaid i ni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, gyda phrofiad bywyd wrth wraidd y Bil, ar gyfer y gymuned BSL a'r gymuned fyddar ehangach?”

Yn ei hymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:

“Rwy'n falch iawn o allu ateb eich holl gwestiynau'n gadarnhaol. Nid yw, yn amlwg, yn fy natganiad heddiw, oherwydd nid yw'n Fil y Llywodraeth—eich Bil chi ydyw—ond bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr ei fod yn mynd drwodd. Rydym yn cytuno'n llwyr arno, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod yr amser deddfwriaethol ar gael.”

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Dydd Mercher, 3 Rhagfyr, 2025
Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pryd y bydd yn ymyrryd i atal camdriniaeth pobl anabl.Wrth ymateb i Ddatganiad ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree