Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Cefnogi Pobl â Meigryn yn y Gweithle

  • Tweet
Dydd Mawrth, 23 Medi, 2025
  • Local News
Cefnogi Pobl â Meigryn yn y Gweithle

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi tynnu sylw at effaith ddinistriol y cyflwr niwrolegol hwn ar y rhai yr effeithir arnyn nhw ac wedi cyfeirio at ymchwil sy'n tynnu sylw at yr anfanteision sy'n wynebu pobl â meigryn yn y gweithle.

Cododd Mr Isherwood y mater yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma wrth alw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i bobl â meigryn yn y gweithle.

Meddai:

“Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn. Mae meigryn yn cael ei gamddeall yn eang fel dim ond cur pen, ond cyflwr niwrolegol difrifol ydyw sy'n achosi poen gwanychol, anhwylderau gweledol ac sy'n codi cyfog, sy'n effeithio ar un ym mhob saith o bobl yng Nghymru—bron i 0.5 miliwn o unigolion.

“Mae ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Ymddiriedolaeth Meigryn, 'Herio gwarthnod: yr angen taer i wella cymorth yn y gweithle i bobl â meigryn', yn tynnu sylw at yr anfanteision syfrdanol sy'n wynebu pobl â meigryn yn y gweithle.

“Mae canfyddiadau yn dangos y byddai 60 y cant o gyflogwyr yn oedi cyn llogi ymgeisydd cymwys sy'n dioddef â meigryn. Yn ogystal â hynny, mae 15 y cant o ddioddefwyr wedi gorfod gadael gwaith amser-llawn i weithio yn rhan-amser, ac mae 19 y cant wedi cael eu gorfodi i adael cyflogaeth yn gyfan gwbl, ar gost sylweddol i'r economi, sy'n sefyllfa yr wyf i'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi sy'n ddigalon ac yn ddiangen, fel ei gilydd.

“Fe all addasiadau syml, ar gost isel ar y cyd â newid yn niwylliant y gweithle fod yn drawsnewidiol i lawer o bobl â meigryn a'u gallu nhw i weithio.

“Rwy'n annog Aelodau'r Senedd i gyd i gefnogi Ymddiriedolaeth Meigryn i godi ymwybyddiaeth a gwella'r ddealltwriaeth o'r mater pwysig hwn, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Wrth ymateb, diolchodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, i Mr Isherwood am "gyflwyno pwnc pwysig iawn” a dywedodd fod Llywodraeth Cymru "yn cydnabod effeithiau gwanychol meigryn".

Ychwanegodd:

“Rydym ni'n parhau i weithio gyda'r GIG i wella gwasanaethau gofal a mynediad at wasanaethau. Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn, ac mae honno'n bwysig, ac fe glywsom ni i gyd sut y dylem ni geisio mynd i'r afael â'r mater hwn yn y gweithle hefyd. Mae'n gyflwr cronig. Mae gennym becyn cymorth cur pen Cymru gyfan, sy'n cefnogi timau clinigol rheng flaen i roi diagnosis a chynllunio gofal i bobl sy'n dioddef gwahanol fathau o gur pen, gan gynnwys meigryn. Ond hefyd, wrth i chi dynnu sylw at y gweithle yn arbennig, rwyf i am gyfeirio eich cwestiwn a'ch pwynt chi at y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol o ran ein hymgysylltiad ni â phartneriaid cymdeithasol.

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Dydd Iau, 29 Ionawr, 2026
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â chynigion o’r newydd ar gyfer uno'r Heddluoedd ac yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.Wrth siarad yn y Senedd ddoe yn ystod Cwestiwn Amserol ar Ddiwygio'r Heddlu, cyfeiriodd Mr Isherwood at y craffu manwl a fu ar y cynnig

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2026 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree