Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Cwestiynu Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut maen nhw’n cefnogi ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru

  • Tweet
Dydd Mawrth, 23 Medi, 2025
  • Local News
Cwestiynu Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut maen nhw’n cefnogi ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru

Gydag ymchwil y Groes Goch Brydeinig yn dweud nad oedd cynlluniau tai ar gyfer ffoaduriaid Wcráin "wedi'u llunio i fod yn rhai hirdymor", mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cwestiynu Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut maen nhw'n cefnogi ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru.

Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, mewn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, gofynnodd Mr Isherwood "Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru".

Aeth ymlaen wedyn i dynnu sylw at y problemau a nodwyd sy'n wynebu ffoaduriaid Wcráin yn y DU a gofyn pa ddadansoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o hyn yng Nghymru.

Meddai:

“Wel, i fod yn glir, mae fy mhlaid yn cydnabod y bydd holl wledydd y DU bob amser yn chwarae eu rhan yn cynnig cartref i ffoaduriaid go iawn, ar ôl profi y byddent mewn perygl pe baent yn dychwelyd i'w gwlad enedigol, gan gynnwys y rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

“Hyd yma, mae 220,000 wedi cyrraedd diogelwch yn y DU trwy gynlluniau fel Cartrefi i Wcráin a'r cynllun i deuluoedd. Mae ymchwil y Groes Goch Brydeinig wedi canfod bod Wcreiniaid wedi'u dadleoli yn parhau i fod fwy na dwywaith yn fwy tebygol o brofi digartrefedd na phoblogaeth y DU yn gyffredinol, ac maent wedi tynnu sylw at argyfwng digartrefedd cudd ymhlith Wcreiniaid wedi'u dadleoli a wnaeth ffoi rhag y gwrthdaro yn 2022, ac a ddaeth yma o dan gynlluniau fel Cartrefi i Wcráin, gan ddweud,

“Nid oedd cynlluniau Wcráin wedi'u llunio i fod yn rhai hirdymor. Weithiau, roedd y trefniadau lletya wedi arafu ar ôl chwe mis. Roedd rhwystrau—gan gynnwys cyflogaeth a gofal plant—yn ei gwneud yn anodd i lawer o Wcreiniaid ddod yn annibynnol yn ariannol.”

“Felly, pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o hyn yng Nghymru? Beth oedd ei ganfyddiadau? A pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi, neu y bydd yn ei rhoi, i'r argymhellion a wnaed gan y Groes Goch, yn seiliedig ar yr arferion gorau a ddangoswyd gan eu hymchwil?

Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt:

“Mae sicrhau llety mwy hirdymor yn allweddol i ddarparu cymorth i'r rhai sydd wedi'u dadleoli gan yr argyfwng yn Wcráin, ac mae hyn yn cynnwys darpariaeth letya, y sector rhentu preifat, a mathau eraill o lety pontio o ansawdd da.”

Ychwanegodd:

“Yn olaf, credaf ei bod yn bwysig dweud mai ein blaenoriaeth yw cefnogi Wcreiniaid i gael llety mwy hirdymor, lle gallant gael mwy o annibyniaeth, ymgartrefu mewn cymunedau, ac ailadeiladu eu bywydau. Rydym yn darparu £1.5 miliwn eleni i'n hawdurdodau lleol i gefnogi costau parhaus sy'n gysylltiedig â'r ymateb i'r sefyllfa yn Wcráin.”


 

 

You may also be interested in

Mark Isherwood: Ysbyty newydd y Rhyl - "iro dwylo wedi’i wanhau cyn-etholiad sy'n methu â diwallu anghenion lleol"

Mark Isherwood: Ysbyty newydd y Rhyl - "iro dwylo wedi’i wanhau cyn-etholiad sy'n methu â diwallu anghenion lleol"

Dydd Mercher, 25 Chwefror, 2026
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi herio'r Prif Weinidog dros gyllid Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar gyfer ysbyty newydd ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl a gofynnodd, ar ôl blynyddoedd o oedi, "pam ddylai etholwyr drwgdybus weld hyn fel dim mwy na mater o iro dw

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2026 Mark Isherwood AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree