
Heddiw, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi holi'r Prif Weinidog ynglŷn â'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gynnwys cymunedau Gogledd Cymru mewn digwyddiadau i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Gyda'r 80 mlwyddiant ychydig dros wythnos i ffwrdd, cododd Mr Isherwood y mater yng nghyfarfod y Senedd heddiw, gan bwysleisio pwysigrwydd y diwrnod a chyfeiriodd at rai o'r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ledled y Gogledd.
Meddai:
“Bydd digwyddiad coffáu 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn y Senedd ar 8 Mai, a fydd yn nodi 80 mlynedd ers diwedd yr ail ryfel byd yn Ewrop, sy'n cael ei gynnal gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a'i noddi gan Darren Millar AS, yn talu teyrnged i'r gwasanaeth a'r aberth a wnaed gan luoedd Prydain, y Gymanwlad a'r Cynghreiriaid.
“Gan gydweithio â chynghrair Together, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gynnwys cymunedau yn y gogledd, gan nodi, er enghraifft, y gwasanaeth coffa yn eglwys San Silyn, Wrecsam, wedi'i ddilyn gan orymdaith dan arweiniad corfflu drymiau gwirfoddol Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, salíwt a seremoni gosod torchau; y digwyddiad yng Nghanolfan Daniel Owen yn yr Wyddgrug, a gynhelir gan Gyngor Tref yr Wyddgrug; digwyddiadau yn y Fflint, gan ddechrau gyda chyhoeddiad cyngor y dref ar risiau eglwys blwyf y Santes Fair a Dewi Sant, ac yn gorffen gyda begwn ar lwybr arfordirol Sir y Fflint yn y Fflint i symboleiddio goleuni heddwch; cyngherddau yn y Rhyl a Llandrillo-yn-Rhos; begynau ar bromenadau Pensarn a Llandudno; a seremonïau codi baneri a goleuo begynau ar Ynys Môn?”
Yn ei hymateb, cydnabu’r Prif Weinidog gyfeiriad Mr Isherwood at ddigwyddiadau yn y Gogledd ond methodd ag ateb ei gwestiwn.