Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lunio Datganiad ar Gronfa Twf Lleol i Gymru Llywodraeth y DU, gan dynnu sylw at rybuddion y gallai arwain at "golli cannoedd o swyddi ar draws yr awdurdodau lleol ymhlith y staff sy’n cael eu cyflogi i ddarparu'r gwasanaethau hyn".
Mae'r Gronfa Twf Lleol i Gymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, yn disodli Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth flaenorol y DU.
Yn y Datganiad Busnes heddiw yn y Senedd, soniodd Mr Isherwood am bryderon bod y cyllid newydd "yn cynnwys anfanteision difrifol".
Meddai:
“Mae Cynghrair Cymunedau Diwydiannol yr awdurdodau lleol yn ardaloedd diwydiannol Cymru, Lloegr a'r Alban yn nodi bod hynny'n golygu gostyngiad mewn termau real, bod y trefniadau cyllido arfaethedig yn cynnwys anfanteision difrifol, os bydd hyn yn mynd yn ei flaen yng Nghymru, fel y'i cynllunnir ar hyn o bryd, bydd yn amharu ar y rhan fwyaf o'r gwasanaethau cymorth busnes, hyfforddiant a chyflogadwyedd a fyddai wedi cael eu hariannu gan gronfa ffyniant gyffredin y DU, a bydd hynny'n arwain at golli cannoedd o swyddi ar draws yr awdurdodau lleol ymhlith y staff sy'n cael eu cyflogi i ddarparu'r gwasanaethau hyn.
Er hynny, maen nhw’n ychwanegu y gellid gwneud newidiadau cymharol syml i'r trefniadau cyllido i adfywio ein cymunedau a'u heconomïau heb yr angen i fynd yn ôl i Drysorlys y DU am fwy o arian.
Yn ei hymateb, cyfeiriodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, at "yr ymgynghoriad chwe wythnos a agorodd ar 7 Tachwedd, gyda dyddiad cau ar 19 Rhagfyr”, gan ychwanegu y “bydd yr ymatebion hynny yn llywio cynllun buddsoddi tair blynedd, a fydd yn cyfarwyddo cyllid yng Nghymru o fis Ebrill 2026, pan fydd y gronfa yn agor.” Fodd bynnag, methodd â mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol.