Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Cynigion bysiau yn peryglu rhoi cwmnïau bysiau bach teuluol yn y Gogledd allan o fusnes

  • Tweet
Dydd Mercher, 14 Ionawr, 2026
  • Local News
bus

Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon ynglŷn ag effaith Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) Llywodraeth Cymru ar fusnesau bach, cymunedau gwledig a theithwyr yn y Gogledd.

Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, rhybuddiodd Mr Isherwood y gallai'r newidiadau arwain at fusnesau rhai gweithredwyr yn mynd i’r wal.

Meddai yn Siambr y Senedd:

“Mae gweithredwyr bysiau bach a chanolig sy'n gweithredu ledled gogledd Cymru yn poeni am effaith eich Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ar fusnesau bach, cymunedau gwledig a theithwyr, sydd ond eisiau gwasanaeth dibynadwy a fforddiadwy.

“Er bod llawer o sôn yn eich Bil am lunio gwasanaethau er budd y teithiwr, mae Bus Users UK yn dweud nad oes llawer o sôn am ymgynghori â theithwyr i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion’.

“Er y bydd yr eithriad yn y Bil ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol yn galluogi gwasanaethau ar alw i barhau, ni fydd hynny'n digwydd fel rhan o rwydwaith masnachfraint mewn ardal.

“O ystyried eich datganiadau blaenorol y bydd eich model masnachfraint yn wahanol i'r model ym Manceinion, lle codwyd y dreth gyngor i ariannu eu cynllun, sut rydych chi'n ymateb i bryderon fod eich cynigion yn creu perygl o yrru gweithredwyr bysiau bach teuluol yng ngogledd Cymru allan o fusnes?”

Yn ei ymateb, mynnodd Ysgrifennydd y Cabinet: “rwy'n credu bod masnachfreinio bysiau yn cynnig dyfodol cadarnhaol iawn i farchnad BBaCh mewn bysiau.”


 

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Dydd Iau, 29 Ionawr, 2026
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â chynigion o’r newydd ar gyfer uno'r Heddluoedd ac yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.Wrth siarad yn y Senedd ddoe yn ystod Cwestiwn Amserol ar Ddiwygio'r Heddlu, cyfeiriodd Mr Isherwood at y craffu manwl a fu ar y cynnig

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2026 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree