Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia i Gymru – AS yn dweud wrth Lywodraeth Cymru "mae'n hanfodol eich bod chi'n gwneud hyn yn iawn"

  • Tweet
Dydd Mercher, 11 Mehefin, 2025
  • Local News
Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia i Gymru – AS yn dweud wrth Lywodraeth Cymru "mae'n hanfodol eich bod chi'n gwneud hyn yn iawn"

Ar ôl cwrdd â phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn y Gogledd yn ddiweddar, mae’r AS dros y rhanbarth Mark Isherwood wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chynllun Gweithredu ar gyfer Dementia newydd yn taro deuddeg.

Yn ystod Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, siaradodd Mr Isherwood am y loteri cod post ar gyfer gwasanaethau dementia yn y Gogledd a gofynnodd sut y bydd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia newydd yn diwallu anghenion y rhai sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.

Meddai:

“Gyda chynllun dementia newydd i Gymru ar y gweill, triniaethau newydd yn yr arfaeth a nifer yr achosion o ddementia yn parhau i gynyddu, mae'n hanfodol eich bod chi'n gwneud hyn yn iawn. 

“Bythefnos yn ôl, ymwelais â hyb dementia Wrecsam gyda Chymdeithas Alzheimer's Cymru a chyfarfod â grŵp cymorth i bobl sy'n byw gyda dementia, a gofalwyr. Er bod llwybr cymorth cof gogledd Cymru yn gwneud yr hyn a all i ddod â darparwyr gwasanaeth a'r trydydd sector at ei gilydd i ddarparu llwybr i bobl sy'n byw gyda dementia ledled gogledd Cymru, roeddent yn dweud bod yna loteri cod post yn bodoli ac nad oes gwasanaethau, yn cynnwys mynediad at nyrsys cymorth arbenigol, ar gael o hyd i bawb sydd eu hangen. 

“Sut y gallwch chi sicrhau felly fod gan Gymru gynllun gweithredu newydd a gyfer dementia gydag ymrwymiad beiddgar i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, fel y rhai y gwnaethant eu nodi?”

Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy AS: "Rwy'n cytuno bod yn rhaid i ni ei wneud yn iawn, ac mae'r adborth ynddo'i hun yn hynod ddefnyddiol."

 

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree