Mae’r AS dros y Gogledd, Mark Isherwood, wedi cwestiynu'r Prif Weinidog y prynhawn yma ynghylch y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Mentrau Bach a Chanolig (BBaCh) yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n briodol, gan dynnu sylw at yr anawsterau sy'n wynebu Cwmnïau Adeiladu Cymru.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd heddiw, cyfeiriodd Mr Isherwood at adroddiad newydd sydd wedi datgelu bod nifer cynyddol o gwmnïau adeiladu yng Nghymru yn wynebu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a gofynnodd i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynrychiolwyr contractwyr busnesau bach a chanolig i sicrhau y gall y sector barhau i adeiladu.
Meddai:
“Ni allwn adeiladu adeiladau cyhoeddus cynaliadwy heb gwmnïau adeiladu. Yng Nghymru, mentrau bach a chanolig, neu BBaChau, yw'r rhain yn bennaf. Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig wedi tynnu sylw at nifer cynyddol o gwmnïau adeiladu yng Nghymru sy'n wynebu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan roi'r bai am hyn ar faterion sy'n cynnwys argyfwng sgiliau, ynghyd â phrosesau tendro rhy gymhleth a diffyg cefnogaeth llywodraeth leol.”
“Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr un o'r BBaChau adeiladu hyn y byddai proses symlach yn caniatáu i BBaChau gystadlu am gontractau sector cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys lleihau a symleiddio'r meini prawf cymhwyso a chyflwyno gofynion cymesur ar gyfer prosiectau llai. Aeth ymlaen i ddweud bod prosesau tendro yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer prosiectau sector cyhoeddus, yn aml yn gofyn am gydymffurfiad â rheoliadau penodol i Lywodraeth Cymru, a all gymhlethu ceisiadau.”
“Felly, sut wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda chynrychiolwyr contractwyr BBaChau, gan gynnwys y Sefydliad Adeiladu Siartredig, i sicrhau sector sy'n ffynnu a all barhau i adeiladu, ymhlith pethau eraill, adeiladau cyhoeddus cynaliadwy yng Nghymru?”
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
“Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r cynnydd enfawr i gostau y mae'r diwydiant adeiladu wedi ei wynebu, yn enwedig yr effaith enfawr y mae chwyddiant wedi ei chael ar rai o'r deunyddiau crai. Mae hynny wedi effeithio ar bob agwedd ac, yn benodol, ar ein gallu yn y Llywodraeth i wneud y math o ddatblygiadau a chynnydd yr ydym ni'n gobeithio eu gweld o ran buddsoddiad cyfalaf, ac, wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod y diwydiant adeiladu wedi cael ei herio hefyd.”
“O ran y BBaChau, rydych chi'n gwbl gywir—mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw gystadlu, a dyna pam mae enghreifftiau ym maes caffael lle rydym ni wedi rhannu'r prosiectau caffael mawr yn brosiectau llai i alluogi rhai o'r cyflenwyr lleol a'r BBaChau hynny i allu tendro am y gwaith hwnnw.”