
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryder nad yw plant anabl yn gallu cael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau, fel gwersi nofio, ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gael gwared ar y rhwystrau maen nhw’n dod ar eu traws.
Yng nghyfarfod y Senedd ddoe, tynnodd Mr Isherwood sylw at y ffordd y mae plant anabl yn colli allan oherwydd y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu a gofynnodd i’r Prif Weinidog beth mae ei Llywodraeth yn ei wneud i fynd i’r afael â’r mater.
Dywedodd:
“Fel Cadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Anabledd, ar Awtistiaeth ac ar faterion Byddardod, mae’r anawsterau o ran mynediad at wasanaethau a gweithgareddau y mae plant anabl yn dod ar eu traws yn cael eu codi gyda mi’n rheolaidd.
“Yng nghyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd ar 20 o fis Chwefror, fe gawsom ni gyflwyniad ar yr adroddiad i werthuso gwersi nofio i blant anabl gan elusen Sparkle a Chwaraeon Anabledd Cymru. Roedd 81 y cant o ofalwyr teuluol yn dweud bod rhwystrau o ran mynediad at wersi nofio yn y gymuned, y mwyafrif yn ymwneud â phlant niwroamrywiol.
“Fe glywsom ni, er bod nofio yn rhan orfodol o’r cwricwlwm cenedlaethol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, fod llawer o blant anabl, i bob pwrpas, yn cael eu cau allan oherwydd diffyg cyfleusterau hygyrch, hyfforddwyr hyddysg o ran anableddau a darpariaethau cynhwysol
“Mae’r canfyddiadau hyn yn arbennig o bryderus o ystyried mai boddi yw un o brif achosion marwolaeth plant sy’n gysylltiedig â thrawma, gyda chynnydd o 46 y cant yn niferoedd y plant a foddodd yn 2022 o’i gymharu â’r cyfartaledd dros bum mlynedd
“Pa gamau, felly, a wnewch chi eu cymryd i sicrhau yr ymdrinnir â’r mater trawsbynciol hwn ac nad yw plant anabl yn cael eu siomi na’u gadael ar ôl?”
Yn ei hymateb, diolchodd y Prif Weinidog i Mr Isherwood am “yr holl waith rydych chi’n ei wneud ar y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd”, gan ddweud “Rydych chi’n hyrwyddwr mawr i’r achos, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n cael ei gydnabod drwy’r Siambr hon.”
Ychwanegodd:
“Mae’r Tasglu Hawliau Anabledd a’r Gweithgorau Plant a Phobl Ifanc a Llesiant wedi bod yn gweithio ar faterion sy’n ymwneud â phlant ac anabledd, ac maen nhw’n tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau hygyrch a chynhwysol i bob plentyn ac unigolyn ifanc anabl.
“Mae’r cynllun hawliau pobl anabl wedi’i lunio. Mae’n cael ei orffen ar hyn o bryd. Roedd yn cynnwys 350 o randdeiliaid allanol, yn cynnwys plant, ac fe fydd ymgynghoriad ar hwnnw’n digwydd yn fuan iawn. Fe fydd yna gyfleoedd wedyn i bobl fwydo’n ôl i mewn i’r broses honno.”
Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
“Mae’n ddrwg gen i fod y Prif Weinidog wedi methu ag ateb fy nghwestiwn penodol ar fater difrifol. Er fy mod yn croesawu sefydlu’r Tasglu Hawliau Anabledd, mae ei natur a’i gylch gorchwyl yn cyfyngu ei waith i’r cyffredinol yn hytrach na’r penodol, ond mae angen y ddau ar bobl Anabl sy’n wynebu rhwystrau.”