
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi taro'n ôl yn dilyn honiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai bod "y pandemig wedi datgelu angen digartrefedd cudd", gan bwysleisio bod yna rybuddion am angen digartrefedd a'r argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru dros ddau ddegawd yn ôl.
Wrth ymateb yn y Siambr i Ddatganiad ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar 'Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)', dywedodd Mr Isherwood ei fod wedi rhybuddio am argyfwng yn ôl yn 2003, fod yna rybuddion pellach wedi’u gwneud gan y sector, ond bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu.
Gan ddadlau mai'r pandemig yn 2020 a ddatgelodd yr angen digartrefedd cudd, dywedodd:
“Pam ydych chi'n dweud yn y datganiad hwn, ‘datgelodd y pandemig angen cudd digartrefedd', pan ddes i o'r sector a thynnu sylw at yr angen digartrefedd hwn am y tro cyntaf yn y Siambr hon yn 2003, pan rybuddiodd Cartrefi i Gymru Gyfan yn 2004 y byddai argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru pe na bai camau yn cael eu cymryd, ac wedi hynny galw am weithredu pan ddaeth yr argyfwng hwnnw'n realiti, ac wedi hynny cyfeirio at yr argyfwng tai yr ydym bellach yn ei wynebu?
“Pam, pan amlygodd adroddiadau pwyllgor olynol, gan ddechrau gydag un a gymerais ran ynddo yn 2005 ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru, angen cudd digartrefedd yng Nghymru? Pam nad yw'r gwaith craffu ar ddeddfwriaeth dai flaenorol, y cymerais ran ynddo, yn cael ei gydnabod a oedd yn tynnu sylw at angen cudd digartrefedd yng Nghymru?”
“Nid yw hyn yn newydd. Nid mater newydd yw hwn. Nid mater cyflenwad tai newydd yw hwn, nac yn fater atal neu ymyrraeth gynnar. Rydw i, fy hun, a llawer o Aelodau blaenorol—efallai rhai yn dal yma—wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â thynnu sylw at hyn ers mwy na dau ddegawd. Felly, sut allwch chi ddweud bod y pandemig wedi datgelu hyn?”
Wrth ymateb i gwestiynau, roedd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi dweud "Nid yw'n ymwneud â thai yn unig, ond rwy'n cydnabod yn llwyr y rôl y mae cyflenwad yn ei chwarae.”
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Rydych chi'n cydnabod y rôl y mae cyflenwad tai yn ei chwarae, ond ni allwch gael chwart i mewn i bot peint. Heb gynnydd enfawr yn y cyflenwad, gan ddatrys y problemau a nodwyd dros y ddau ddegawd diwethaf, rydych chi'n mynd i gael gwahanol bobl yn y cartrefi, ond yr un niferoedd yn aros am y cartrefi hynny. Mae yna lawer o gynigion cyffrous ar draws y sectorau i fynd i'r afael â hyn. Felly, sut fyddwch chi'n eistedd i lawr o amgylch y bwrdd gyda'r holl sectorau, gan gynnwys y sector preifat, i fanteisio ar rai o'r atebion y maen nhw'n eu cynnig?”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Mr Isherwood:
"Fel rydw i wedi dweud o'r blaen, mae Llafur wedi methu â mynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru ers dros ddau ddegawd, gyda Gweinidogion Llafur olynol yn diystyru pob rhybudd ac yn anwybyddu cyngor dro ar ôl tro.
"Ar ôl gweithio yn y sector ers dros ddau ddegawd, rwy'n gwybod bod yr argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru yn mynd yn ôl i ddyddiau cynnar datganoli a bod penderfyniadau a gafodd eu llywio gan bolisïau a wnaed gan Lywodraethau Llafur neu dan arweiniad Llafur o 1999 ymlaen, yn uniongyrchol gyfrifol am hyn. Yn hytrach na gweithio gyda'r sector, preifat a chymdeithasol, fe ddewison nhw roi blaenoriaeth isel i dai, i dorri cyllid ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy, ac i gosbi adeiladwyr tai preifat. Yn achos Cymru, a heuo wynt, a fedo gorwynt.
"Eu brad tai yw'r anghyfiawnder cymdeithasol mwyaf maen nhw wedi'i achosi i bobl Cymru".