Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Fawr ddim cynnydd wedi’i wneud o ran lleihau tlodi yng Nghymru

  • Tweet
Dydd Mawrth, 10 Mehefin, 2025
  • Local News
Fawr ddim cynnydd wedi’i wneud o ran lleihau tlodi yng Nghymru

Gydag adroddiadau'n dangos nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran lleihau tlodi yng Nghymru ac y bydd cyfraddau tlodi yn cynyddu'n sylweddol yng nghartrefi'r rhai yr effeithir arnyn nhw gan ddiwygio budd-daliadau anabledd Llywodraeth y DU, mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd ac ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Mark Isherwood AS, wedi herio Llywodraeth Cymru heddiw ynglŷn â'r camau y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.

Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, cododd Mr Isherwood y mater gyda'r Prif Weinidog.

Meddai: “Wel, prin iawn o gynnydd a ganfuwyd yn adroddiad 'Tlodi yng Nghymru 2025' Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd heddiw o ran lleihau tlodi yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac roedd yn rhybuddio y gallai tlodi plant yng Nghymru, os na chymerir camau, gyrraedd 34 y cant erbyn 2029-30, sef y gyfradd uchaf o holl wledydd y DU.

“Un mlynedd ar bymtheg yn ôl, ddegawd ar ôl i Lafur ddod i rym yng Nghymru ym 1999, adroddodd Sefydliad Joseph Rowntree, hyd yn oed cyn y dirwasgiad, bod hanner y gwelliant blaenorol o ran tlodi plant eisoes wedi'i golli, ar ôl i dlodi plant gyrraedd y lefel uchaf o unrhyw wlad yn y DU, sef 32 y cant, cyn y wasgfa gredyd yn 2008.

“Fis diwethaf, lansiodd Sefydliad Bevan adroddiad ar effaith diwygio budd-daliadau anabledd yng Nghymru, y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Fe wnaeth hwn ganfod y byddai cyfraddau tlodi yn cynyddu'n sylweddol ar aelwydydd a fydd yn cael eu heffeithio. Bydd hyn yn wynebu pwysau ariannu ychwanegol ar wasanaethau datganoledig.

“Felly, yng nghyd-destun gwasanaethau datganoledig, pa gynlluniau wrth gefn, os o gwbl, sydd gan Llywodraeth Cymru ar gyfer hyn, neu a ddylem ni dybio nad oes gennych chi rai?

Yn ei hymateb, dywedodd y Prif Weinidog:  “Ceir amrywiaeth eang o gymorth yr ydym ni wedi ei wario yn cynorthwyo pobl o ran tlodi, gan gynnwys tua £7 biliwn dros y blynyddoedd diwethaf, wedi'i dargedu at y bobl hynny sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd.”

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:

“Mae canfyddiadau'r adroddiadau hyn yn dangos yn glir nad yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gweithio ac yn anffodus mae'r sefyllfa yn edrych fel ei bod yn gwaethygu.

“Mae Llywodraethau Llafur olynol Cymru wedi methu â chau'r bwlch rhwng rhannau cyfoethocaf a thlotaf Cymru – a rhwng Cymru a gweddill y DU – er eu bod wedi gwario biliynau a roddwyd iddyn nhw mewn ffydd i fynd i'r afael â hyn ar raglenni o'r brig i lawr na lwyddodd i wneud hynny.”

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree