
Mae’r AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi herio Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch ei Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol "wahaniaethol", gan bwysleisio'r effaith negyddol y mae'n ei chael ar bobl yn Sir y Fflint.
Wrth gyfrannu at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ddoe, a oedd yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol, gweithio gyda Chynghorau i sicrhau bod cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yn cael eu defnyddio i gadw'r Dreth Gyngor yn isel a chyflwyno refferenda ar gyfer unrhyw Gyngor sy'n cynnig codiad Treth Gyngor sy'n uwch na 5%, mynegodd Mr Isherwood bryder bod Cyngor Sir y Fflint wedi cael y setliad cydradd isaf eleni, a’i fod wedi cael setliadau gwael yn y gorffennol.
Meddai:
Mae dros ddau ddegawd ers i mi gyfarfod ag arweinydd Llafur Cyngor Sir y Fflint am y tro cyntaf oherwydd y fformiwla ariannu llywodraeth leol wahaniaethol y ceisiai ymgyrchu yn ei herbyn. Dim ond dau neu dri mis sydd wedi mynd heibio ers imi godi pryderon arweinydd Llafur presennol Cyngor Sir y Fflint yn y fan hon. Oherwydd eu bod wedi cael y setliad cydradd isaf eleni, ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd—dau ddegawd neu fwy—o fod ar y gwaelod neu'n agos at y gwaelod, maent yn wynebu codiad o 9.5 y cant wrth i gyllidebau ysgolion gael eu torri—
Onid ydych chi'n poeni am bobl sir y Fflint yr effeithir arnynt gan y fformiwla gyllido wahaniaethol ddarfodedig hon?
Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
"Gyda phedwar Cyngor Gogledd Cymru unwaith eto ymhlith y rhai sy'n derbyn y setliadau isaf yng Nghymru, mae'r fformiwla ariannu hon wedi dyddio ac mae gwir angen adolygiad annibynnol.
"Ledled Cymru, mae cynghorau ar hyn o bryd yn eistedd ar dros £2 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio, ac eto mae trigolion yn wynebu codiad Treth Gyngor o dros 7% ar gyfartaledd – a 9.5% yn Sir y Fflint!
"Felly mae'n rhwystredig ac yn siomedig bod Llafur wedi pleidleisio yn erbyn ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r system annheg hon."