Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi galw am i Ddatganiad ar gymorth cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru fod ar Agenda Cyfarfod Llawn cyn gynted â phosibl.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes heddiw, mynegodd Mr Isherwood bryder ynglŷn â chyflwyno'r Rhaglen 'Cysylltu â Gwaith' yng Nghymru a gofynnodd sut y bydd Awdurdodau Lleol yn ei chyflwyno.
Dywedodd:
"Er bod Llywodraeth y DU yn bwriadu torri budd-daliadau anabledd a helpu mwy o bobl anabl i gael gwaith, fe gaeodd y Rhaglen 'Gwaith ac Iechyd' i atgyfeiriadau newydd flwyddyn yn ôl i heddiw. Roedd y rhaglen honno’n helpu pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd i ddod o hyd i gyflogaeth a’i chadw yng Nghymru. cafodd y rhaglen hon 24,000 o atgyfeiriadau yng Nghymru hyd at 30 Medi y llynedd, ond dim byd ers hynny.
"Mae Rhaglen olynol Llywodraeth y DU - 'Cysylltu â Gwaith' - wedi'i datganoli i Awdurdodau Lleol. Er bod y Rhaglen i fod i gael ei chynnig yng Nghymru o fis Ionawr 2026, nid yw'r darparwyr allanol profiadol wedi clywed dim ac maen nhw’n gorfod diswyddo'r staff sydd â'r arbenigedd sydd ei angen. Mewn cyferbyniad, mae Awdurdodau Lleol yn Lloegr yn contractio ar lefel rhanbarthol. Rwy'n deall hefyd nad yw nifer yr atgyfeiriadau a roddir i Awdurdodau Lleol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mor uchel â'r rhai a gafwyd gan y rhaglen Gwaith ac Iechyd.
"A fydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cyflwyno'r Rhaglen eu hunain, heb yr arbenigedd i ddod o hyd i gyflogaeth a'i chadw, a chyda'r risg y bydd pob Awdurdod Lleol wedyn yn cysylltu â'r un cyflogwyr ar wahân, a sut y bydd hyn yn cael ei fonitro a'i werthuso? Rwy'n galw am Ddatganiad Llafar brys ar Agenda’r Cyfarfod Llawn yn unol â hynny."
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd y byddai'n codi'r materion hyn gyda Gweinidog Pobl Anabl y DU, Syr Stephen Timms.
Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
"Er fy mod yn croesawu ei datganiad y bydd yn trafod hyn gyda Llywodraeth y DU, rwy'n pryderu na wnaeth hi gyfeirio at Awdurdodau Lleol o gwbl, er bod y Rhaglen newydd wedi'i datganoli i Awdurdodau Lleol ac mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am berfformiad Llywodraeth Leol yng Nghymru."