
Heddiw, mae’r AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Pobl Fyddar, Mark Isherwood, wedi cyflwyno cynnig yn tynnu sylw at yr angen i ddarparwyr gwasanaethau ddiwallu anghenion y Gymuned Pobl Fyddar.
Wrth agor ei ddadl Aelod ar 'ddiwallu anghenion y Gymuned Pobl Fyddar', pwysleisiodd Mr Isherwood fod pobl sy’n colli eu clyw dan anfantais ddifrifol o gymharu â phobl sydd heb eu heffeithio ar eu clyw.
Pwysleisiodd hefyd mai Iaith Arwyddion Prydain yw'r dull cyfathrebu a ffefrir ar gyfer llawer o bobl fyddar, a mynegodd bryder am benderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â symud ymlaen gyda TGAU mewn iaith arwyddion.
Roedd y Cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn benodol yn cyfleu'r materion a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau pobl fyddar, ac i gael mwy o gysylltiad â'r gymuned pobl fyddar er mwyn nodi eu hanghenion.
Wrth siarad yn y ddadl, dywedodd Mr Isherwood:
“Er fy mod yn croesawu sefydlu'r tasglu hawliau pobl anabl, mae ei natur a'i gylch gorchwyl yn cyfyngu ei waith i'r cyffredinol yn hytrach na'r penodol, pan fo angen y ddau ar bobl anabl sy'n wynebu rhwystrau'n gysylltiedig â'u cyflyrau penodol, yn cynnwys pobl fyddar
“Ar ôl y cyhoeddiad ym mis Tachwedd y llynedd y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp rhanddeiliaid BSL, adroddodd consortiwm newydd BSL Cymru o sefydliadau sy'n cynrychioli pobl fyddar a phobl sy'n arwyddo wrthyf fod tîm polisi BSL Llywodraeth Cymru wedi bod yn holi unigolion a sefydliadau ynglŷn â hyn, a'u bod i gyd yn parhau i gefnogi fy Mil BSL (Cymru).”
Mae tystiolaeth yn dangos bod gan bobl fyddar ddwywaith y gyfradd o broblemau iechyd meddwl a brofir gan boblogaethau sy'n clywed, ac eto Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar.
Gan ddyfynnu Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru Gyfan o academyddion, clinigwyr ac arbenigwyr, rhai Byddar ac yn bobl sy’n clywed, sy'n gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, dywedodd “Y brif broblem yw diffyg mynediad at wasanaethau iechyd ac iechyd meddwl. Nid yw staff iechyd a gofal yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod ac nid ydynt yn gwybod sut i drefnu dehonglwyr BSL. Oherwydd bod gwasanaethau cwyno hefyd yn anhygyrch, ychydig o gwynion a gyflwynir i fyrddau iechyd.”
Ychwanegodd:
“Nid iaith yn unig yw BSL, mae hefyd yn borth i ddysgu, a modd i bobl fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed.
Ym mis Hydref 2024 penderfynodd Cymwysterau Cymru atal datblygiad TGAU Iaith Arwyddion Prydain.
“Rhan o'r cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn oedd nad oes gweithlu parod o athrawon cymwysedig yng Nghymru a allai ddysgu TGAU yn y pwnc hwn. Mae hyn yn mynd at wraidd y ddadl pam y mae angen Deddf BSL yng Nghymru.
“O ystyried y prinder o ddehonglwyr a chyfieithwyr BSL yng Nghymru, nid yw'n syndod fod prinder athrawon cymwysedig ar gyfer TGAU BSL.
“Mae hyn yn ganolog i'r rheswm pam y mae arwyddwyr BSL yn cael eu gwahardd yn anuniongyrchol o gymdeithas yng Nghymru trwy ddiffyg ymwybyddiaeth o'r rhwystrau a wynebant, ac felly pam fod diffyg cynllunio rhagweithiol ac addasiadau yn cael eu gwneud ar gyfer pobl fyddar ac arwyddwyr BSL.
“Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yng Nghymru wedi rhybuddio bod niferoedd llai o athrawon plant byddar a phroblemau eraill gyda diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru yn llesteirio disgyblion byddar.
Ychwanegodd:
“Nid anhawster dysgu yw byddardod, ond mae plant byddar yn cael eu gwneud yn anabl gan yr anghydraddoldeb parhaus yn y canlyniadau gyda'r risg y bydd y bwlch rhwng plant byddar a'u cyfoedion sy'n clywed yn ehangu fwyfwy, yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.”
“Ni fyddai fy Mil BSL (Cymru) yn ffordd o gyrraedd pen draw ynddo'i hun, ond byddai'n gweithredu fel llwyfan i sicrhau gwell gwasanaethau i'r gymuned fyddar a phobl â cholled clyw, a gwella'r cymorth a gynigir ar hyn o bryd fel y gall pobl gymryd rhan lawn mewn pethau fel cyflogaeth, iechyd ac addysg.”
“Gyda Deddf BSL yn Lloegr a'r Alban a Bil gweithredol wedi'i gynnig yng Ngogledd Iwerddon, os na fydd Deddf BSL yn dwyn ffrwyth yma hefyd, bydd yn gam ag arwyddwyr BSL ledled Cymru. Diolch yn fawr.”