
Heddiw, mae Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i sicrhau bod canol trefi yn hygyrch i bawb.
Wrth holi'r Prif Weinidog ar y mater yng nghyfarfod Senedd Cymru y prynhawn yma, fe wnaeth Mr Isherwood, sydd wedi bod yn galw am welliannau ers blynyddoedd, dynnu sylw at y rhwystrau sy'n dal i fodoli i bobl ddall a rhannol ddall. Aeth ymlaen i annog Lywodraeth Cymru i droi geiriau yn gamau gweithredu go iawn.
Dywedodd:
“Mae bron i 22 mlynedd ers i mi fynychu digwyddiad Cŵn Tywys Cymru yma am y tro cyntaf, yn tynnu sylw at yr angen i roi'r gorau i droi strydoedd a rennir a mannau cyhoeddus yn yr awyr agored yn ardaloedd caeedig i bobl ddall a rhannol ddall drwy eu cynnwys yn ystod y cam dylunio.
“Fodd bynnag, parhaodd y broblem. Yn gynnar yn y pandemig, bu'n rhaid i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru a Guide Dogs Cymru godi pryder ynghylch y mater o fannau a rennir a'r goblygiadau mesurau trafnidiaeth dros dro Llywodraeth Cymru i bobl ddall a rhannol ddall.
“Heddiw, mae RNIB Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu diogelwch pobl anabl drwy ymgorffori eu hegwyddorion allweddol o ddylunio strydoedd cynhwysol yng nghanllawiau teithio llesol Llywodraeth Cymru. Ac mae Guide Dogs Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ganfyddiadau eu hymchwil 'Dylunio ar gyfer Cynhwysiant', ac i ddiwygio canllawiau teithio llesol nodyn cyngor technegol 18 a chanllawiau perthnasol eraill, gan gynnwys pobl anabl a defnyddwyr seilwaith eraill.
“Sut wnewch chi sicrhau bod geiriau gwresog Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn cael eu troi'n weithredu go iawn ar lawr gwlad yn unol â hynny?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
“Gallaf eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth eisoes yn gweithio ar y mater hwn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pawb yn teimlo y gallan nhw fod yn rhan o'n cymuned. Ac, i sicrhau hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw pobl ag anableddau yn teimlo wedi'u cloi allan; mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r broses o ddatblygu polisïau. Felly, rydym ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol sicrhau, pan fyddan nhw'n gweithio allan sut i ddatblygu canol eu trefi, eu bod nhw'n cymryd hynny i ystyriaeth, gan gynnwys pobl sy'n ddall.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
“Mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru y soniodd y Prif Weinidog amdanynt yn parhau i fod yn ddiystyr heb fonitro a gwerthuso canlyniadau nac ymyrryd wedyn pan fydd methiannau yn dod i'r amlwg."