Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Galw ar bobl â cholled synhwyraidd i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw

  • Tweet
Dydd Mawrth, 6 Mai, 2025
  • Local News
 Galw ar bobl â cholled synhwyraidd i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw

Anaml yr ymgynghorir â phobl sydd â cholled synhwyraidd yng Nghymru ar gynlluniau hygyrchedd ar gyfer canol trefi a mannau cyhoeddus awyr agored, ac anaml y byddan nhw’n ymwneud â monitro hygyrchedd gofal iechyd, ac mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “gyflwyno monitro effeithiol o safonau hygyrchedd Cymru ar gyfer pobl â cholled synhwyraidd, gan eu cynnwys yn y broses”.

Wrth godi’r mater gyda’r Prif Weinidog yng nghyfarfod y Senedd heddiw, dywedodd Mr Isherwood:

“Pan wnes i eich holi chi yn y fan hon ym mis Ionawr ynglŷn â chamau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod canol trefi a mannau cyhoeddus awyr agored yn hygyrch i bobl ddall a rhannol ddall, roeddech chi’n dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn gweithio ar y mater hwn eisoes.

“Er hynny, gan nodi eich ymateb, ar y pryd, fe anfonodd Cŵn Tywys Cymru e-bost ar ôl hynny yn dweud, ‘Yn anaml iawn, yn anffodus, y caiff pobl phobl ddall a phobl ag amhariad ar eu golwg eu hymgynghori ar gynlluniau i greu lleoedd, er gwaethaf disgwyliadau Llywodraeth Cymru a’r gofyniad cyfreithiol i asesiadau effaith ar gydraddoldeb arddangos gwaith ymgysylltu hygyrch ac ystyrlon.’

“Yn yr un modd, mae adroddiad diweddaraf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, ‘Still ignored: the fight for accessible healthcare’ wedi canfod, er gwaethaf cyflwyno safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch dros ddegawd yn ôl, yn 2013, llai nag un ym mhob pump sy’n cytuno bod eu hanghenion o ran gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu diwallu yn fwy aml nawr na degawd yn ôl.

“Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru, o’r diwedd, gyflwyno monitro safonau hygyrchedd Cymru gyfan i bobl â cholled synhwyraidd, gan eu cynnwys nhw yn y broses, ac, os felly, pryd a sut?

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:

“Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i ni ddefnyddio pobl sydd â phrofiad bywyd i helpu i lunio ein polisïau; mae hyn yn rhywbeth y gwn i fod Gweinidogion yn awyddus iawn i’w wneud. Fe wnes i gwrdd yn ddiweddar â grŵp o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a fu’n cynghori ar sut i wneud ein trenau’n fwy rhwydd i’w defnyddio. Felly, mae hyn yn sicr yn digwydd mewn rhai ardaloedd, ac fe fyddaf i’n gofyn i’r Gweinidog perthnasol sicrhau y bydd hynny’n cael ei wneud pan ddaw i ddatblygu canol trefi.

 

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree