
Mae’r AS dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Pobl Fyddar, Mark Isherwood AS, unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb Wasanaeth Iechyd Meddwl i Bobl Fyddar ac wedi galw ar y Prif Weinidog i sicrhau bod pobl fyddar yn rhan o'r Strategaeth Iechyd Meddwl newydd i Gymru.
Cododd Mr Isherwood y mater yn y Senedd fis Tachwedd diwethaf ac, wrth siarad yng nghyfarfod Senedd Cymru heddiw, galwodd ar y Prif Weinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Iechyd Meddwl Newydd Llywodraeth Cymru a gofynnodd iddi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Byddar Cymru Gyfan.
Dywedodd:
“Wrth siarad yma ym mis Tachwedd, galwais am Ddatganiad Llywodraeth Cymru gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gynnwys pobl fyddar yn y Strategaeth Iechyd Meddwl newydd i Gymru, ar ôl i Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru, grŵp o weithwyr proffesiynol byddar ac sy’n clywed ynghyd ag elusennau, ysgrifennu at y Gweinidog yn datgan eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru yn rhan wirioneddol o hyn.
“Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl i bobl fyddar, ond mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problem iechyd meddwl na pherson sy'n clywed.
“Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd y bydd y Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i alwad y Grŵp, ond wrth ysgrifennu at y Gweinidog fis diwethaf, dywedodd y Grŵp nad oedden nhw wedi derbyn ymateb ganddi. Efallai eu bod nhw bellach; wn i ddim.
“Pa ddiweddariad allwch chi ei roi, neu pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau pellach gyda'r Grŵp a gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, y maen nhw'n gweithio'n agos gyda nhw?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Prif Weinidog bod camau breision wedi'u cymryd o ran cymorth iechyd meddwl.
Meddai:
“Yn benodol ar gyfer pobl fyddar, serch hynny, ac rwy'n gwybod am eich diddordeb yn hyn, a'ch bod wedi hyrwyddo'r mater hwn ers cryn amser, rydym wedi gofyn i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru gynnal adolygiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer y rhai sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, a bydd yr adolygiad hwn yn llywio'r cynllun cyflawni a gaiff ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Strategaeth.”