Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Galwad am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i Bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw

  • Tweet
Dydd Mawrth, 29 Ebrill, 2025
  • Local News
Galwad am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i Bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw

Heddiw, mae Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Pobl Fyddar ac AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i Bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar y DU 2025 yr wythnos nesaf, 5 i 11 Mai.

Wrth siarad yn y Datganiad Busnes yn y Senedd y prynhawn yma, dywedodd Mr Isherwood mai thema'r Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar eleni yw 'Y Tu Hwnt i Dawelwch'. 

Meddai:

“Fe fydd hon yn canolbwyntio ar oresgyn y rhwystrau sy'n atal hygyrchedd llawn i unigolion sydd wedi colli eu clyw, dathlu'r ffyrdd amrywiol o bobl fyddar yn cyfathrebu ac amlygu cyfoeth diwylliant byddar, a'i nod yw herio camsyniadau ynglŷn â bod yn fyddar, hyrwyddo dealltwriaeth ac adeiladu byd mwy cynhwysol i bawb.

“Mae'r wythnos yn hyrwyddo cynhwysiant trwy eirioli dros wella hygyrchedd mewn gweithleoedd, ym myd addysg ac mewn mannau cyhoeddus, a hynny drwy annog dealltwriaeth o'r dulliau amrywiol o gyfathrebu sy'n cael eu defnyddio gan bobl fyddar a thrwm eu clyw.

“Cyn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod, fe wnes i gyfarfod â'r Deaf and Sensory Network ddydd Llun, i drafod eu gwaith nhw fel darparwr contractau gofal cymdeithasol i oedolion ar gyfer y gymuned fyddar yn Wrecsam a Sir y Fflint. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiadau—un yr wythnos hon, un yr wythnos nesaf—ar y ddwy eitem yna.”

Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS:

“Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod hefyd fod angen i ni sicrhau bod pob unigolyn byddar a'u gofalwyr nhw'n gwybod o ble y gallan nhw gael gafael ar wasanaethau, gofal a chefnogaeth yn eu cymuned leol, a chynnig sicrwydd y byddan nhw'n cael mynediad cyflym at wasanaethau a chefnogaeth pan fydd ei angen arnyn nhw. “

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Cefnogi Lleisiau Mwy Amrywiol ym Mywyd Cyhoeddus Cymru

Dydd Gwener, 21 Tachwedd, 2025
Yn siarad yn y digwyddiad 'Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal' yn y Senedd yr wythnos diwethaf, pwysleisiodd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, bwysigrwydd cynrychiolaeth, cyfranogiad y cyhoedd, a mentora i gefnogi lleisiau mwy amrywiol ym mywyd cyhoeddus Cymru.Mae 'Pŵer Cyfartal Llais

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree