
Wrth siarad yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedodd AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, fod angen Ymchwiliad “oherwydd rhaid i ni beidio â chaniatáu i'r ffeithiau gael eu cuddio, i eraill gael y bai, a'r chwythwyr chwiban i gael eu bwlio”.
Dydd Sul yma, 8 Mehefin 2025, mae’n ddeng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig am y tro cyntaf.
Yn y ddadl brynhawn yma yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd dadleuol Gogledd Cymru, dywedodd Mr Isherwood fod pryderon amlwg ynghylch methiannau wedi cael eu hanwybyddu ers blynyddoedd.
Meddai:
“Ar ôl i'r Bwrdd Iechyd fynychu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ym mis Mawrth 2022, ysgrifennais atynt fel Cadeirydd ynghylch pryderon ynglŷn â rhai o'r ymatebion a ddarparwyd ganddynt i ni.
“Cyfeiriai ein llythyr at adroddiadau amrywiol dros y degawd blaenorol, gan gynnwys adroddiadau Holden, Ockenden, y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac roedd yn cynnwys y frawddeg, 'Cawsom ein siomi nad oedd y Weithrediaeth yn ysgwyddo cyfrifoldeb am y problemau yn y Bwrdd.’
“Er bod Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd a'i ragflaenwyr wedi adrodd yn gyson am bryderon ynghylch gweithrediad y Bwrdd a goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys adroddiadau a gyhoeddwyd yn 2013, yn 2016, a 2019, ac er bod Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi codi'r pryderon hyn yn gyson, gadawyd i faterion gyrraedd y pwynt hwn.
“Mewn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd, sydd bellach yn Brif Weinidog, ym mis Chwefror 2023, nodwyd ei bod wedi cytuno ei bod yn bryd i aelodau annibynnol y Bwrdd ymddiswyddo.
“Dywedodd y cyn-aelodau annibynnol hyn o'r Bwrdd Iechyd wrthyf wedi hynny fod y Gweinidog, drwy ei gweithredoedd, wedi dileu cof y sefydliad. Mae'r rhai a frwydrodd i weld y sefydliad yn dysgu o fethiannau'r gorffennol wedi cael eu disodli.”
“Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 3 Mai 2023, clywsom hefyd gan gyn-aelodau annibynnol o'r Bwrdd Iechyd fod eu hymddiswyddiad gorfodol wedi dilyn eu hymdrechion i ddwyn rhai o aelodau gweithredol y Bwrdd i gyfrif drwy her a chraffu pwrpasol.
Cyfeiriodd Mr Isherwood at ei brofiad ei hun fel claf yn Ysbyty Maelor Wrecsam, lle “roedd y staff yn wych, ond roedd y system yn amlwg yn methu”. Dywedodd ei fod wedi treulio'r nos ar droli ar Ward Majors a bu'n rhaid iddo ofyn am flanced am 3am.
Ychwanegodd:
“Er ei bod yn newyddion da fod amseroedd aros dwy flynedd wedi gostwng, maent yn parhau i fod yn 8,389 yng Nghymru, o gymharu â dim ond 147 yn Lloegr, gyda’r rhan fwyaf ohonynt—5,747—ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Dywedodd Llais Gogledd Cymru, llais y bobl mewn iechyd a gofal cymdeithasol, wrthyf bythefnos yn ôl mai'r bwrdd iechyd yw'r prif bryder a adroddir wrthynt o hyd.
“Yn y cyfamser, mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i fynd ar drywydd arbedion ffug yng nghyllid partneriaid y trydydd sector, a fydd yn ychwanegu at y pwysau ariannol sydd arno, yn amrywio o Hosbisau i Wasanaethau Adrannau Brys i'r loteri cod post ar hyd y Gogledd o ran mynediad at wasanaethau i bobl sy'n byw gyda dementia.
“Gan na ddylem ganiatáu i'r ffeithiau gael eu claddu, i'r baich gael ei daflu ac i'r chwythwyr chwiban gael eu bwlio, mae'r Gogledd angen ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”
Trechodd Llafur a Phlaid Cymru y Cynnig.