Cyn Cyllideb olaf Llywodraeth Cymru, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, sy'n Cadeirio'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol, wedi tynnu sylw unwaith eto at y pwysau ariannol sy'n wynebu darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal y trydydd sector, gan gynnwys Hosbisau, ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i'w cefnogi.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes y prynhawn yma yn y Senedd, galwodd Mr Isherwood am Ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i alwadau gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal y trydydd sector am fwy o gyllid.
Meddai:
“Rwyf i'n galw am ddatganiad brys ar yr unfed awr ar ddeg hon cyn cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gymorth i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal allweddol yn y trydydd sector.
“Fel rwyf i wedi rhybuddio dro ar ôl tro, fe fydd methiant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r costau cynyddol a ddodir arnyn nhw'n achosi crebachiad pellach ymhlith y gwasanaethau hyn a chostau llawer uwch i ddarparwyr GIG a gofal statudol a fydd o dan bwysau o ganlyniad i hynny.
“Yr wythnos diwethaf, fe ysgrifennodd gweithiwr cymorth i Mencap Cymru yn y gogledd at Aelodau'r gogledd, gan ddweud: 'Mae angen i ni weld ymrwymiad cadarn ac eglur cyn y gyllideb derfynol ym mis Ionawr i ddangos bod y gwaith a wnawn ni'r gweithwyr cymorth yn cael ei werthfawrogi a'n bod ni'n cael ein talu yn deg am y gwaith anhygoel yr ydym ni'n ei wneud’.
“Yn yr un modd, mae hosbisau yng Nghymru sy'n wynebu toriadau eisoes wedi nodi nad yw £3 miliwn yn gyfystyr â'r setliad cyllid cynaliadwy a addawyd gan Lywodraeth Cymru.
“Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Gweinidog Gofal y DU ychwanegiad arall o £25 miliwn at y £100 miliwn o gyllid cyfalaf sydd ar gael ar gyfer hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru, yn ychwanegol at gyllid refeniw, gan gynnwys £80 miliwn ychwanegol ar gyfer hosbisau plant dros dair blynedd, sy'n aruthrol fwy na chyllid gan Lywodraeth Cymru i hosbisau yma yng Nghymru, lle mae gofal iechyd yn cael ei symud allan o'r gymuned i ysbytai sy'n gwbl groes i bolisi datganedig Llywodraeth Cymru.
“Felly, rwy'n galw am ddatganiad brys iawn gan Lywodraeth Cymru cyn iddi fod hi'n rhy hwyr, yn unol â hynny.”
Mewn ymateb, dywedodd y Trefnydd Jane Hutt AS:
“ac wrth gwrs mae hwn yn fater sy'n gyfrifoldeb i ni, ac yn gyfrifoldeb yr ydym ni wedi ei gymryd yn ddifrifol iawn. Mewn gwirionedd, fe ymatebodd y Prif Weinidog i hyn wrth ymateb i gwestiynau yn gynharach heddiw, o ran ein hymrwymiad ni i'r gwasanaethau hynny y gwnaethoch chi eu nodi nhw o ran cyllid uniongyrchol i sefydliadau, ond i'r gwasanaethau a ddarperir hefyd gan yr awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn fwy eang.”
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Fel yr wyf wedi rhybuddio dro ar ôl tro, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn darparu'r pecyn cymorth sydd ei angen ar ddarparwyr iechyd y trydydd sector, bydd yn costio mwy yn yr hirdymor ac yn arwain at ganlyniadau gwaeth, gyda'r rhai mwyaf agored i niwed yn talu'r pris."