Gyda Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i fod yn barod ddechrau'r flwyddyn nesaf, mae AS Gogledd Cymru a Hyrwyddwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer y Gylfinir, Mark Isherwood, wedi galw am sicrwydd y bydd yn cynnwys gwarchod, rheoli ac adfer y gylfinir.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddoe, gofynnodd Mr Isherwood i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wneud datganiad ar rôl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wrth gyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth Cymru ar gyfer 2030 a gwarchod rhywogaethau dan fygythiad fel y gylfinir.
Meddai:
“Wel, ar hyn o bryd nid oes gofyniad i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun ffermio cynaliadwy gael eu rheoli. Mae hyn er gwaethaf yr angen amlwg i hyn ddigwydd er mwyn i Gymru allu bodloni ei hymrwymiadau bioamrywiaeth 2030
“Bydd un o'r rhywogaethau sydd o dan fwyaf o fygythiad yng Nghymru, y gylfinir, yn diflannu erbyn 2033 yng Nghymru oni bai bod rheolaeth cynefinoedd wedi'i dargedu yn cael ei gynnwys nawr.
“Gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy i'w gyhoeddi yn y Sioe Frenhinol ac i fod yn barod ar gyfer Ionawr 2026, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi y bydd diogelu, rheoli ac adfer y gylfinir, a'r manteision lluosog ac amlrywogaeth y byddai hyn yn eu cyflawni, yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac y bydd ffermwyr, nid tirfeddianwyr yn unig, yn cael eu cefnogi i gyflawni'r camau gweithredu sydd eu hangen ar raddfa'r dirwedd?
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae'n werth dweud bod y gylfinir o dan fygythiad gwirioneddol yma. Bygythiad go iawn. Mae'n un o'r rhywogaethau sydd o dan fygythiad sylweddol yng Nghymru. Ond rydym eisoes yn buddsoddi £2 filiwn mewn prosiectau drwy gronfa Rhwydweithiau Natur i hyrwyddo adferiad y gylfinir yng Nghymru.
“Mae cynnydd yn cael ei wneud drwy gynllun gweithredu Cymru ar gyfer adfer y gylfinir, sy'n parhau i fod yn gynllun a gefnogir gan y Llywodraeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr allbynnau o adolygiad 2025.”