
Ar ôl galw droeon am Wasanaeth Iechyd Meddwl i Bobl Fyddar yng Nghymru, mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Pobl Fyddar, Mark Isherwood, wedi croesawu cynnydd ar y mater hwn ers ei alwad ddiwethaf, ond dywedodd bod angen gwneud mwy.
Wrth ymateb i’r Datganiad heddiw gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol, ‘Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol’, holodd Mr Isherwood y Gweinidog am y camau a gymerwyd hyd yma i gynnwys pobl Fyddar yn y Strategaeth newydd i Gymru.
Holodd y Gweinidog hefyd ynglŷn â chynnwys pobl Niwroamrywiol yn y Strategaeth.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problem iechyd meddwl na rhywun sy’n clywed, ond Cymru yw’r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl i’r byddar.
“Wrth siarad yma fis Tachwedd diwethaf, galwais am ddatganiad gennych chi fel y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gynnwys pobl fyddar yn y strategaeth iechyd meddwl newydd ar gyfer Cymru, ar ôl i’r grŵp iechyd meddwl a llesiant pobl fyddar Cymru gyfan—grŵp o weithwyr proffesiynol ac elusennau sy’n gweithio yn y maes byddar a chlyw—ysgrifennu atoch chi’n dweud eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru yn rhan o hyn.
“Ar ôl holi’r Prif Weinidog yma ym mis Chwefror, gan ofyn am ddiweddariad ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r grŵp a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, y maen nhw’n gweithio’n agos gyda nhw, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru gynnal adolygiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl i’r rhai sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, ac y byddai’r adolygiad hwn yn llywio’r cynllun cyflawni a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r strategaeth.
“Er bod y strategaeth bellach yn nodi y bydd datganiadau ansawdd yn cael eu llywio gan adolygiad diweddar o wasanaethau iechyd meddwl i bobl fyddar, pam nad yw hyn yn cadarnhau cyfranogiad Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru Gyfan neu y bydd cynllun cyflawni yn troi’r datganiad ansawdd perthnasol o weledigaeth i weithredu mesuradwy?
“Yn olaf, er bod y strategaeth yn nodi bod pobl niwroamrywiol mewn mwy o berygl o brofi cyflyrau iechyd meddwl, pam nad yw’n nodi’n gategoraidd bod cyflyrau fel awtistiaeth ac ADHD yn gyflyrau gydol oes, nid cyflyrau iechyd meddwl, er y gallan nhw arwain at heriau a allai gynyddu’r risg o straen, gorbryder ac iselder, ac felly mae’n ddyletswydd ar wasanaethau i sefydlu ac addasu i anghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu rhywun awtistig, cydnabod achosion eu gorbryder, ac felly rhoi’r gorau i’w trin fel y broblem?