
Ddoe fe wnaeth AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wfftio honiadau Llywodraeth Cymru fod yr argyfwng costau byw wedi’i greu’n gyfan gwbl gan gyn-Lywodraeth y DU.
Wrth ymyrryd yn y Ddadl ar Adroddiad Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd: “Atebolrwydd Aelodau Unigol: Dichell Fwriadol”, heriodd Mr Isherwood ddatganiadau a wnaed gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Drwy ymgorffori dichell fwriadol yng Nghod Ymddygiad yr Aelodau, mae’r Pwyllgor o’r farn y bydd y Senedd yn anfon neges glir na fydd yn goddef ymddygiad o’r fath ac y bydd yn dwyn y rhai sy’n torri’r safonau hyn i gyfrif, ac y dylai “Llywodraeth Cymru wneud rhagor o waith, sy’n ymestyn y tu hwnt i etholiad 2026, sy’n adeiladu ar y corff o dystiolaeth y mae’r Pwyllgor wedi’i gasglu i archwilio’r materion cymhleth sy’n ymwneud â rheoleiddio dichell wleidyddol yn fanylach”.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd Mr Isherwood:
“Mae datganiad yn ddichellgar os yw’n ffug neu’n gamarweiniol, yn anwir neu’n anwir mewn manylyn perthnasol.
“Mae Fforwm Economaidd y Byd wedi datgan bod cost gynyddol bwyd ac ynni yn effeithio ar bobl ledled y byd.
“Wrth siarad yma fis Gorffennaf diwethaf, yr un mis ag etholiad cyffredinol y DU, nodais: ‘Ar hyn o bryd, mae gan 33 o wledydd Ewropeaidd, ardal yr ewro ac 17 o wledydd y G20 gyfraddau chwyddiant uwch na’r DU ar hyn o bryd yn sgil yr argyfwng costau byw byd-eang.’
“Fodd bynnag, mae Aelodau Llywodraeth Cymru yn dal i ddweud yma fod yr argyfwng costau byw wedi’i achosi’n llwyr gan Lywodraeth flaenorol y DU. A ydych chi’n cytuno felly y dylent ofalu beth y dymunant ei gael?”