Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Herio'r Ysgrifennydd Addysg ar gyllid ar gyfer Addysg Bellach a’r gostyngiad yn nifer y Prentisiaid Adeiladu

  • Tweet
Dydd Mercher, 8 Hydref, 2025
  • Local News
Herio'r Ysgrifennydd Addysg ar gyllid ar gyfer Addysg Bellach a’r gostyngiad yn nifer y Prentisiaid Adeiladu

Heddiw, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cwestiynu'r Ysgrifennydd Addysg ynglŷn â'r gefnogaeth i Golegau Addysg Bellach yng Nghymru a'i herio am y gostyngiad sylweddol yn nifer y Prentisiaid Adeiladu.

Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng nghyfarfod y Senedd heddiw ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl i mewn i Addysg Bellach, dyfynnodd Mr Isherwood ffigurau pryderus sy'n dangos bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y Prentisiaid Adeiladu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Tynnodd sylw hefyd at bryderon a godwyd gydag ef ynghylch lefelau cyllid ar gyfer Colegau Addysg Bellach (AB).

Meddai:

“Dangosodd dadansoddiad gan ColegauCymru ym mis Mehefin 2023, yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael gwared ar y brentisiaeth sylfaen lefel 2, fod 1,075 yn llai o brentisiaid adeiladu o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym mis Mehefin 2025, dangosodd data a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, Medr, ostyngiad o 48 y cant yn nifer y prentisiaethau adeiladu newydd, gan briodoli'r gostyngiad i ddileu'r brentisiaeth sylfaen lefel 2 a thoriad o 14 y cant i'r gyllideb brentisiaethau.

“Mae staff colegau sy'n aelodau o ColegauCymru a'r sector adeiladu bellach yn tynnu sylw at hyn fel problem fawr sy'n effeithio ar bobl ac economi Cymru.”

Ychwanegodd:

“Mae colegau hefyd yn dweud wrthyf fod addysg bellach yn profi twf sylweddol yn niferoedd myfyrwyr craidd amser llawn, ymhell y tu hwnt i'r lefelau cyllid presennol, a'u bod ochr yn ochr â hyn, yn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 heb fwy o gyllid, er bod nifer y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynyddu'n sylweddol, gyda'r llwyth gwaith craidd yn mwy na dyblu mewn dwy flynedd. Ar ôl anwybyddu'r rhybuddion, pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru nawr i gefnogi'r sector drwy fynd i'r afael â'r materion hyn?”

Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys prentisiaethau, ynglŷn â'r pryderon a godwyd ynghylch prentisiaethau adeiladu.

O ran cyllid ar gyfer colegau Addysg Bellach, dywedodd:

“Yn amlwg, rydym ar fin dechrau'r rownd gyllidebol, felly ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau ynglŷn â chyllid ychwanegol, ond rwy'n dadlau'n gryf dros bwysigrwydd nid yn unig mwy o gyllid ar gyfer addysg, ond pwysigrwydd addysg bellach a'r angen i'w chefnogi, a byddaf yn parhau i wneud hynny.”

“Rwy'n cydnabod bod colegau dan bwysau mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar yr adolygiad deddfwriaethol, lle bydd gennyf ragor i'w ddweud am hynny.”

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:

"Ein colegau Addysg Bellach yw asgwrn cefn datblygu sgiliau, a dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu galluogi i sicrhau mwy o gyfleoedd i'n pobl ifanc a gweithlu cryfach."

 

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Cefnogi Lleisiau Mwy Amrywiol ym Mywyd Cyhoeddus Cymru

Dydd Gwener, 21 Tachwedd, 2025
Yn siarad yn y digwyddiad 'Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal' yn y Senedd yr wythnos diwethaf, pwysleisiodd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, bwysigrwydd cynrychiolaeth, cyfranogiad y cyhoedd, a mentora i gefnogi lleisiau mwy amrywiol ym mywyd cyhoeddus Cymru.Mae 'Pŵer Cyfartal Llais

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree