
Mae Mark Isherwood, sy’n bryderus bod addewidion Llywodraeth Cymru i roi pwerau newydd i Ogledd Cymru wedi cael eu glastwreiddio, wedi herio’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar y mater.
Yn 2023, roedd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates AS, wedi dadlau o blaid datganoli penderfyniadau ar ystod o faterion trafnidiaeth i’r Rhanbarth.
Fodd bynnag, yn dilyn Datganiad a wnaed ganddo fis diwethaf, mae Mr Isherwood yn pryderu na fydd y rhanbarthiaeth a’r datganoli go iawn a argymhellir gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu cyflawni.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddoe wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet am gynigion i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, dyweddd:
“Wrth eich holi yma yn 2018 yn ystod eich cyfnod cyntaf fel Ysgrifennydd trafnidiaeth, nodais weledigaeth dwf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer dogfen cynnig drafft gogledd Cymru, a nodai fod y rhanbarth yn gwahodd Llywodraeth Cymru i gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol ac ariannu’r gwaith o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig wedi’i gynllunio’n dda, ac y bydd angen pwerau ychwanegol i alluogi’r gwaith o gynllunio rhwydweithiau cludo teithwyr integredig
“Yn eich ymateb, fe wnaethoch chi gyfeirio am y tro cyntaf yn lle hynny at fetro gogledd Cymru. Fel y gwyddoch, rwy’n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar gyfer gogledd Cymru, ac yn ein cyfarfod ym mis Chwefror 2023 roeddech chi’n dadlau o blaid datganoli’r broses o wneud penderfyniadau ar ystod o faterion trafnidiaeth i’r rhanbarth, ac fe ddywedoch chi y gallai hyn gynnwys datganoli cyllid i gyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru.
“Gan eich bod bellach ar eich ail gyfnod fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth, sut y gallwch chi gysoni eich datganiad fis diwethaf y bydd penderfyniadau ynghylch cyllido grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cael eu gwneud gan gydbwyllgorau corfforedig yn seiliedig ar gynllun cyflawni y cytunwyd arno, gyda Llywodraeth Cymru, rwy’n tybio, â’r dull gweithredu a argymhellwyd gan y bwrdd uchelgais o’r cychwyn sef rhanbartholdeb a datganoli go iawn?”
Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rydyn ni’n gwneud yr hyn y dywedais y dylem ei ddechrau yn fy nghyfnod cyntaf, sef datganoli’r adnodd ariannol a’r broses o wneud penderfyniadau i’r rhanbarth—ie, i’r cydbwyllgor corfforedig, ond fe allai’r cyllid fod yn mynd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Mater i’r cydbwyllgorau corfforedig yw penderfynu sut y mae’r cyllid yn cael ei ddyrannu yn erbyn eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol y cytunwyd arnynt.
Wrth siarad y tu allan i’r cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
“Nododd ‘Dogfen Gynnig Drafft Gweledigaeth Twf ar gyfer Gogledd Cymru’ Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru y ceisir pwerau a chyfrifoldebau newydd (ar gyfer Gogledd Cymru) i hwyluso twf mewn meysydd polisi allweddol fel trafnidiaeth a chyflogaeth. Wrth siarad yn y Senedd ar hyn saith mlynedd yn ôl, dywedais y byddai hyn yn gofyn i’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd lacio ei gafael. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n ymddangos bod hyn yn rhywbeth maen nhw’n ei chael hi’n anodd ei wneud.”