Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Holi Llywodraeth Cymru am y cymorth sydd ar gael i bobl â Sglerosis Ymledol

  • Tweet
Dydd Mawrth, 29 Ebrill, 2025
  • Local News
Holi Llywodraeth Cymru am y cymorth sydd ar gael i bobl â Sglerosis Ymledol

Yn Wythnos Ymwybyddiaeth MS 2025, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi gofyn i Lywodraeth Cymru pa gymorth maen nhw'n ei ddarparu i bobl â Sglerosis Ymledol.

Heddiw, wrth alw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar y mater yn y Datganiad Busnes yn y Senedd, siaradodd Mr Isherwood hefyd am y digwyddiad y bydd yn ei noddi yr wythnos nesaf i ddathlu thema'r Wythnos Ymwybyddiaeth MS eleni, sef 'Sgyrsiau am MS'.

Meddai:

“Rwy'n galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl sydd â sglerosis ymledol, cyflwr niwrolegol sy'n gwaethygu.

“Mae mwy na 6,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag MS, ac mae bron i 300 o bobl yn cael diagnosis o MS yng Nghymru bob blwyddyn. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth MS 2025, o 28 Ebrill hyd 4 Mai. Ddydd Mercher nesaf, fe fyddaf i'n noddi digwyddiad amser cinio Cymdeithas MS Cymru ar gyfer ddathlu thema eleni sef 'Sgyrsiau MS'—sut beth yw byw gydag MS, pa wasanaethau ac ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru heddiw, a'r hyn y mae angen i ni fod yn ei wneud fel arall.

“Bydd pobl sy'n byw gydag MS wrth law i siarad am eu profiadau nhw o fyw gyda'r cyflwr, ac fe fydd MS Society Cymru yn arddangos data newydd a thriniaethau newydd sydd yn yr arfaeth ar gyfer y ddau fath o MS.”

Yn ei hymateb, diolchodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, i Mr Isherwood am dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth MS.

Ychwanegodd: “Rwy’n siŵr y bydd Aelodau o’r Senedd am fod yn bresennol ac ymgysylltu, ac wrth gwrs bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiddordeb arbennig yn yr wythnos MS, a byddwn yn edrych ar unrhyw wybodaeth y bydd angen i ni ei rhannu ynglŷn â hynny.” 

 

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree