Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi siarad heddiw yn lansiad Maniffesto 'Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan', sy'n nodi: "Mae hawl gennym i leisio ein barn. Rydym angen help i ddatblygu sgiliau er mwyn lleisio, dewis a rheoli ein bywydau.
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yw llais unedig grwpiau hunaneiriolaeth a phobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, ac mae'n sefydliad ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ac yn cael ei arwain ganddynt.
Wrth siarad yn eu digwyddiad Lansio Maniffesto y bore yma, dywedodd Mr Isherwood, sydd hefyd wedi cefnogi'r Ymgyrch Cartrefi Nid Ysbytai:
"Mae hunaneiriolaeth yn grymuso unigolion anabl i siarad drostyn nhw’u hunain, i wneud penderfyniadau gwybodus ac i hawlio eu hawliau.
"Mae'n cynnwys deall a defnyddio eih hawliau, gwneud dewisiadau a chymryd rheolaeth dros eich bywyd eich hun, adeiladu hyder a sgiliau cyfathrebu, a herio gwahaniaethu a rhwystrau systemig.
"Mae sefydliadau fel Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn diffinio hunaneiriolaeth fel 'siarad drosoch chi'ch hun', ac yn pwysleisio ei rôl o ran galluogi pobl ag anableddau dysgu i fyw'n annibynnol a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
"Fodd bynnag, fel y dywed eich Maniffesto, mae hunaneiriolaeth dan fygythiad. Heb hunaneiriolaeth, bydd rhaid i bobl ddibynnu ar eraill i leisio’u barn. Bydd hynny’n gallu arwain at gamdriniaeth a cholli annibyniaeth.
"Dyna pam mae'n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod hunaneiriolaeth yn cael ei hariannu ledled Cymru a'i gwneud yn rhan orfodol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
"Mae hefyd yn galw ar Awdurdodau Lleol i gydnabod rôl bwysig hunaneiriolaeth a darparu cyllid digonol ar gyfer grwpiau hunaneiriolaeth, i alluogi pobl ag anableddau dysgu i fwynhau bywydau gweithgar a chyfartal.
"Mae'r Maniffesto yn nodi bod pobl ag anableddau dysgu yn wynebu gormod o rwystrau wrth geisio cael gwaith, a bod angen gwell cyfleoedd, cymorth ac addasiadau rhesymol.
"Fel y dywed, mae hynny’n bwysig iawn ar hyn o bryd, pan mae pobl ag anableddau dysgu o dan bwysau i gael hyd i waith, ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi a gweithredu argymhellion a nodir yn adroddiad y Prosiect Cyfleoedd Cyflogaeth (Engage to Change), Cysylltu er Newid. 'Cyflogi pobl gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth: adroddiad adborth gan gyflogwyr Engage to Change'."
Ychwanegodd:
"Mae'r Maniffesto hefyd yn nodi bod gormod o bobl ag anableddau dysgu yn byw mewn gwasanaethau sy'n cyfyngu ar eu rhyddid a’u hawliau dynol, weithiau'n achosi niwed corfforol ac emosiynol. Nid oes gan lawer unrhyw ddewis ynglŷn â ble maen nhw'n byw neu gyda phwy maen nhw'n byw.
"Mae rhai hyd yn oed yn cael eu cadw mewn ysbytai diogel pan nad ysbyty yw'r lle gorau - yn aml oherwydd nad yw'r gwasanaethau y mae ganddyn nhw hawl iddynt ar gael. Rhaid i hyn newid.
"Mae'r Maniffesto yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru ac Awdurdodau Lleol i gynyddu argaeledd tai cymdeithasol a chymorth, darparu'r gwasanaethau angenrheidiol er galluogi pobl ag anableddau dysgu i fwynhau byw mewn modd byddent yn dewis eu hunain, a sicrhau na fydd pobl ag anableddau dysgu yn cael eu rhoi mewn unedau ac ysbytai diogel pan na fydd angen gwneud hynny.”
Aeth Mr Isherwood ymlaen i siarad am yr ymgyrch 'Stolen Lives' yng Nghymru, gan ddweud ei fod "wedi taflu goleuni ar nifer y bobl awtistig a phobl ag Anableddau Dysgu sy'n cael eu rhoi mewn ysbyty neu leoliadau arhosiad hir eraill, yn aml ymhell o gartref".
Siaradodd hefyd am ei Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), a gyflwynwyd yn ffurfiol i'r Senedd ym mis Gorffennaf 2025, gyda'r nod o hyrwyddo a hwyluso Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ledled Cymru, gan ddweud "Os caiff ei phasio, hon fydd y gyfraith BSL fwyaf blaengar yn y DU, gan sicrhau atebolrwydd hirdymor a newid diwylliannol", gan gloi trwy ddweud:
“Mae angen atebolrwydd a newid diwylliannol ar grwpiau hunaneiriolaeth a phobl ag anableddau dysgu yng Nghymru hefyd. Fel y dywed eich Maniffesto, mae cael eich trin yn gyfartal yn bwysig i chi. Wedi'r cyfan, fel y dywedwyd yn eich ffilm yn gynharach, 'mae'n ymwneud â rhyddid a rhyddid lleferydd'."