
Mae’r AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi llongyfarch Porthladd Mostyn yn y Senedd y prynhawn yma am y cyfleoedd y bydd y gwaith ehangu a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn eu creu ar gyfer yr ardal. Gofynnodd hefyd i'r Prif Weinidog a yw hi wedi ystyried rhoi cefnogaeth i Mostyn a'r ardaloedd cyfagos fel hyb ar gyfer peirianneg ac ynni morol.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd y porthladd yn Sir y Fflint yn creu 300 o swyddi newydd gyda gwaith ehangu mawr i ddarparu ar gyfer y diwydiant ynni gwynt ar y môr.
Mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog yng nghyfarfod y Senedd heddiw ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant gwyrdd yn Nelyn, soniodd Mr Isherwood am gynlluniau Porthladd Mostyn, a'r angen i gymunedau lleol fod yn rhan o gynlluniau.
Meddai:
“Mae porthladd Mostyn a'i reolwr gyfarwyddwr dygn, Jim, y mae llawer ohonom ni'n ei adnabod, i'w llongyfarch ar eu cyhoeddiad o angorfa newydd i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol mwy ac am brynu hen safle cyfagos Warwick International, fel yr ydym ni wedi clywed, gan greu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad, twf a swyddi.
“Wrth gwrs, mae diogeledd ynni yn gofyn am opsiwn wrth gefn cynaliadwy ar gyfer ynni sy'n seiliedig ar y tywydd. Bydd piblinell dal carbon newydd HyNet, sy'n hanfodol i gynlluniau ar gyfer cyfleuster ynni o wastraff Parc Adfer ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, y gwaith sment yn Padeswood a phrosiect gorsaf bŵer carbon isel Cei Connah, yn rhedeg i draeth cyfagos Talacre.
“Mae porthladd Mostyn hefyd wedi arwain galwadau am forlyn llanw yn ymestyn o Fostyn i'r Parlwr Du yn sir y Fflint. Hefyd, mae Doc Penfro yn gartref i dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol a'r cyfleuster hydrogen gwyrdd, wedi'i bweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, ar gyfer y diwydiannau trafnidiaeth ac adeiladu.
“Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi, felly, i gefnogi Mostyn a'r cyffiniau fel canolfan ar gyfer ynni a pheirianneg forol? Ac yn hollbwysig, sut wnewch chi sicrhau cyfranogiad a budd i gymunedau lleol?
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
“Rwy'n falch iawn o weld y datblygiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Jim yma—mae'n swnio fel arwr llwyr, i fyny ym mhorthladd Mostyn—oherwydd rhan o'r hyn y mae ganddo ddiddordeb yn ei wneud yw adeiladu a chydosod strwythurau tyrbinau gwynt a'r gwasanaethau ategol, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn eich bod chi, Mark, yn ei groesawu hefyd.
“Fe wnaethoch chi sôn am brosiect HyNet, ac wrth gwrs mae hwnnw'n brosiect trawsffiniol, sy'n cael ei weithio ochr yn ochr â fforwm datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy. Rwy'n credu bod y rhain yn ddatblygiadau pwysig iawn ac mae ganddo botensial gwirioneddol ar gyfer datblygu hybiau hydrogen ar draws y gogledd.”