
Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi codi pryderon na fydd Cynllun Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r hyn a fwriadwyd.
Wrth ymateb i Ddatganiad ar y Cynllun yng nghyfarfod Senedd Cymru heddiw, siaradodd Mr Isherwood am siom y sector ynglŷn â'r cynllun a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'w rhestr o bryderon.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, rwyf i wedi ymgynghori â'r sector ar y cynllun deng mlynedd hwn, sydd, fel y clywsom, yn ôl Llywodraeth Cymru, â'r nod o wella hawliau a chyfleoedd pob person anabl yng Nghymru.
“Sut ydych chi'n ymateb i'r siom a fynegwyd ganddyn nhw gyda'r diffyg mesurau gweithredadwy yn y byrdymor ac adborth Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi cymryd cyhyd oherwydd cyd-gynhyrchu â phobl anabl, pan gymerodd hyn lai o amser na chwblhau'r cynllun, lle collwyd llawer o amser?
“Hefyd, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod diffyg ymrwymiadau cadarn yn llawer o'r amcanion mwy hirdymor, a'u cwestiwn ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau parhad ac atebolrwydd ar gyfer yr amcanion tymor hwy hyn y tu hwnt i'r weinyddiaeth bresennol?
Dywedodd Mr Isherwood fod beirniadaeth wedi bod hefyd o'r tu mewn i'r sector nad oes gan y Cynllun dargedau pendant, gan ei gwneud hi'n amhosibl i Lywodraeth Cymru roi cyfrif am gynnydd, a gofynnodd “pa dargedau mesuradwy a buddsoddiad, os o gwbl, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith yn awr.”
Ychwanegodd:
“Dywedodd Damian Bridgeman, a gadeiriodd Weithgor Tai a Chymuned y Tasglu Hawliau Anabledd, fod y ddogfen ddrafft yn rhywbeth i dynnu sylw yn hytrach na Chynllun.
“Tynnodd sylw at absenoldeb arian newydd a dim mecanwaith i olrhain cyflawni'r cynllun gweithredu ymhellach, gan ychwanegu 'Mae pobl anabl wedi cael eu hadolygu’n ddi-ben-draw. Yr hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu – a does dim o hynny yma'.
“Beirniadodd y diffyg gweithredu ar rai o'r argymhellion mwyaf ymarferol, angenrheidiol a ddeilliodd o gam cyd-gynhyrchu'r broses, a dywedodd nad oeddent 'erioed wedi cyrraedd y cynllun terfynol' oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru 'yn gwybod sut i'w cyflawni'.
“Felly, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y strategaeth hon yn arwain at newid go iawn yn hytrach na dod yn 'gasgliad o fwriadau amwys wedi'u cyflwyno fel cynnydd. Dim targedau. Dim dannedd. Dim atebolrwydd yn y byd go iawn'?”
Dywedodd Mr Isherwood hefyd, er bod y Cynllun arfaethedig yn cyfeirio at bobl niwroamrywiol yng nghyd-destun iechyd meddwl a chyfiawnder, nid oes ganddo strategaeth bwrpasol neu ganlyniadau wedi'u teilwra i'w profiadau unigryw mewn addysg, cyflogaeth a gofal iechyd, a gofynnodd pa fecanweithiau sydd ar waith i sicrhau bod lleisiau niwroamrywiol yn cael eu clywed a bod eu hanghenion yn cael eu monitro a bod cynlluniau yn cael eu gwneud ar eu cyfer.
Ychwanegodd:
“Mae'r sector yn poeni bod cynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer Llwybrau i Waith y Papur Gwyrdd mewn perygl o analluogi pobl yng Nghymru ymhellach trwy waethygu tlodi ac allgau, ac y gallai'r toriadau hyn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau datganoledig i Gymru fel iechyd a gofal cymdeithasol, a ariennir drwy fformiwla Barnett.
“Sut, yn benodol, bydd effaith y cynigion hyn yn cael ei mesur yng Nghymru, a sut bydd unrhyw bwysau sy'n deillio o hynny ar wasanaethau datganoledig yn cael ei ariannu, yn enwedig mewn perthynas â digonolrwydd fformiwla Barnett?
“Yn olaf, er bod y Cynllun yn ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, mae adroddiad effaith diweddar Sefydliad Bevan ar Lwybrau i Waith yn dangos bod pobl anabl mewn perygl o gael eu gwthio ymhellach i amddifadedd economaidd-gymdeithasol.
“Pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i liniaru effaith y cynigion hyn gan Lywodraeth y DU ar bobl anabl yng Nghymru?”