
Ar ôl galw droeon ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y tanseilio hawliau dynol hirsefydlog y mae rhieni awtistig a phlant awtistig yn ei wynebu, dyfynnodd AS Gogledd Cymru a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, Mark Isherwood, etholwr o Sir y Fflint a ddywedodd yr wythnos diwethaf fod "pobl niwroamrywiol yn cael eu targedu'n weithredol gyda'r “honiadau arferol o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill".
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yng nghyfarfod y Senedd heddiw am gefnogaeth i deuluoedd sy'n magu plant anabl, gofynnodd Mr Isherwood "pryd, os byth, y bydd Llywodraeth Cymru felly yn cymryd camau i atal y cam-drin creulon hwn".
Meddai:
“Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod awtistiaeth fel anabledd.
“Ac fe soniais yma'n flaenorol am adroddiad ymchwil ysgol y gyfraith Prifysgol Leeds ar nifer achosion ac effaith honiadau o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill, o greu neu orliwio anawsterau plentyn.
“Mae hyn yn cynnwys Cymru, ac mae'n nodi bod hyn wedi bod yn bryder arbennig i rieni awtistig a phlant awtistig, gyda mamau plant awtistig 100 gwaith yn fwy tebygol o gael eu hymchwilio mewn perthynas â salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill gan wasanaethau plant.
“Daeth adroddiad Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Lloegr ar awtistiaeth a beio rhieni i gasgliadau tebyg.
“Ym mis Mawrth, mynychais ymgynghoriad yn St George's House, castell Windsor, ar salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill.
“Roedd casgliad yr adroddiad dilynol yn cynnwys bod honiadau ffug o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill yn risg gyson i'r cyhoedd, i deuluoedd, ac yn enwedig i blant bregus, sy'n cael eu methu'n gyson gan ymatebion diogelu ymosodol sy'n anwybyddu tystiolaeth ac empathi.
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthyf bum mis yn ôl y byddai'n gweithio trwy'r rhaglen gwella niwroamrywiaeth i gydnabod y pryderon, ysgrifennodd etholwr o sir y Fflint ddydd Gwener diwethaf i ddweud bod pobl niwroamrywiol yn cael eu targedu'n weithredol gyda'r honiadau arferol o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill.
“Pryd y bydd Llywodraeth Cymru felly yn rhoi camau ar waith i atal y cam-drin creulon hwn?”
Wrth ymateb, diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i Mark am godi'r mater a dywedodd “fe af â hyn yn ôl a sicrhau bod yna waith dilynol yn digwydd”.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae'n siomedig ac yn bryderus, er fy mod wedi amlinellu droeon y niwed y mae hyn yn ei achosi i blant awtistig a'u teuluoedd, ac wedi galw am weithredu, ei fod yn dal i ddigwydd dro ar ôl tro.
"Ym mhob achos, mae'r rhieni Awtistig hyn a rhieni plant Awtistig yn cael eu trin fel y broblem gan Swyddogion y Sector Cyhoeddus ar lefelau uwch, sydd wedi methu â phennu ac addasu i'w hanghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu, ac sy'n parhau i frwydro yn eu herbyn nhw yn hytrach na chydnabod mai nhw sydd wedi achosi’r rhwystrau i’r teuluoedd hyn ac y gallan nhw fod yr ateb i'w dileu."