
Mae’r AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi herio Llywodraeth Cymru heddiw dros wrthod cynnal digwyddiad i nodi Diwrnod o Fyfyrdod Covid-19 yn y Goedlan Goffa bwrpasol yn Erddig yn Wrecsam.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes heddiw, dywedodd Mr Isherwood fod Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am anwybyddu'r diwrnod, a dywedodd ei fod yn sarhad i bawb a fu farw o ganlyniad i'r pandemig, yn ogystal â'u teuluoedd.
Gan alw am ddatganiad ar Ddiwrnod o Fyfyrdod Covid-19, dywedodd:
“Dydd Sul 9 Mawrth yw'r diwrnod ledled y DU i fyfyrio ar bandemig COVID-19, a bydd yn nodi pum mlynedd ers dechrau'r pandemig. Serch hynny, er i Lywodraeth Cymru lunio coetir coffa COVID ar ystad Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam, a agorodd yn ddiweddar, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod nodi'r diwrnod gyda digwyddiad yn y coetir
“Fel y mae COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn ei ddweud, mae'n ddigon drwg bod y rhai mewn profedigaeth oherwydd COVID wedi gweld gwrthod ymchwiliad i Gymru a'u bod bron yn anweledig yn yr un ar gyfer y DU gyfan, ond mae anwybyddu'r diwrnod yn sarhad gwirioneddol ar bob un a fu farw a'u teuluoedd.
“Gwnaethon nhw ychwanegu nad yw Llywodraeth Cymru am gynnal digwyddiadau yn y ddwy goedwig arall a luniwyd ganddyn nhw i goffáu COVID chwaith, ond maen nhw wedi cael gwybod y bydd rhywun o Lywodraeth Cymru yn dod i'r digwyddiad preifat ar eu cyfer yng Nghaerffili.
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad byr ar gyfer y diwrnod, mae'r teuluoedd yn mynegi bod datgan mai diwrnod i bobl yng Nghymru ei nodi mewn ffyrdd sy'n teimlo yn ystyrlon iddyn nhw eu hunain yn anghywir. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r rhai a gafodd brofedigaeth, fe fydden nhw wedi dweud eu bod nhw'n dymuno cael digwyddiad o goffâd ffurfiol wedi'i drefnu ganddyn nhw.
“Rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny, mewn ymateb i'r pryder hwnnw, a fynegwyd yn y ffordd honno.”
Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, y byddai'n mynychu'r digwyddiad yng Nghaerffili, ond methodd ag egluro pam nad oedd Llywodraeth Cymru wedi trefnu digwyddiadau yn eu safleoedd Coffa Covid yng Nghymru.