
Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth y Byd, mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Awtistiaeth Trawsbleidiol y Senedd, Mark Isherwood, wedi pwysleisio’r angen i “droi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a derbyniad o Awtistiaeth o fod yn rhith arwynebol ac anatebol i fod yn realiti byw ar draws ein sectorau cyhoeddus a phreifat”.
Wrth siarad yn ei Ddatganiad 90 Eiliad yn ystod cyfarfod y Senedd heddiw, cyfeiriodd Mr Isherwood at achosion yn y Gogledd lle mae pobl awtistig a’u teuluoedd yn cael eu gadael i lawr.
Meddai:
“Yn 2008, dynododd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 2 Ebrill bob blwyddyn yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd. Mae heddiw felly’n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2025, gyda’r thema o hyrwyddo niwroamrywiaeth a nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, sy’n cynnwys lleihau anghydraddoldebau, iechyd a llesiant da a sicrhau addysg gynhwysol a theg i bawb.
“Mae’r diwrnod yn amlygu’r angen am fwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflyrau’r sbectrwm awtistiaeth, gan hyrwyddo derbyniad, cynhwysiant a chymorth i unigolion awtistig. Fodd bynnag, mae gormod o uwch swyddogion cyhoeddus yng Nghymru yn dal i ddibynnu ar hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth sydd ond yn ticio blychau, ac yn gwrthod deall a diwallu anghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu unigolion awtistig.
“Mae hyn yn rhy aml yn arwain at fwlio, beio a chosbi, gan wthio pobl awtistig i sefyllfa o argyfwng, yn hytrach na darparu’r gofal, yr iechyd, yr addysg, y tai a’r cymorth cyflogaeth sydd ei angen.”
Ychwanegodd:
“Yn y grŵp trawsbleidiol diwethaf ar awtistiaeth, nodwyd bod llawer o blant niwroamrywiol yn cael eu haddysgu gartref, nid drwy ddewis rhieni, ond oherwydd nad oes digon o gymorth mewn ysgolion prif ffrwd.
“Ysgrifennodd mam o Wynedd yn ddiweddar i nodi bod ysgol ei mab awtistig yn wynebu toriadau, sy’n golygu nad yw’n cael y cymorth sydd ei angen arno. Ysgrifennodd etholwr awtistig o Ynys Môn yn ddiweddar i nodi bod unigolion awtistig yn wynebu amgylchedd cynyddol elyniaethus. Ac ysgrifennodd mam awtistig o sir y Fflint ddydd Gwener diwethaf yn disgrifio’r gwahaniaethu a’r erledigaeth y mae teuluoedd sy’n gwneud cwynion yn ei brofi.
“Mae angen gweithredu ar Gymru, felly, i droi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a derbyniad o awtistiaeth o fod yn rhith arwynebol ac anatebol i fod yn realiti byw ar draws ein sectorau cyhoeddus a phreifat.”