
Mae'r Aelod o’r Senedd Lleol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood AS, wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Sir y Fflint i godi pryderon am effaith diffyg £72 miliwn mewn cyllid Yswiriant Gwladol (YG) cyflogwyr ar gyllidebau'r cyngor. Mae'r diffyg yn dilyn penderfyniad y Canghellor Llafur Rachel Reeves i gynyddu cyfraniadau YG cyflogwyr heb drosglwyddo cyllid llawn i awdurdodau lleol.
Mae'r cynnydd mewn YG yn golygu bod rhaid i gyflogwyr dalu mwy i gyflogi staff yn awr – boed yn fusnesau bach neu gyrff mawr yn y sector cyhoeddus fel cynghorau lleol. Ar y pryd, rhoddodd Ysgrifennydd Cyllid Llafur, Mark Drakeford, sicrwydd y byddai Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol i dalu'r costau uwch hyn yn y sector cyhoeddus. Ym mis Tachwedd, dywedodd:
“Mae'r Trysorlys wedi dweud heddiw y bydd cyllid ychwanegol i weithwyr y sector cyhoeddus i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr... bydd yn darparu cyllid llawn i ymdopi â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr dan yr amgylchiadau hynny.”
Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, datgelodd Mr Drakeford na fyddai Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, yn trosglwyddo'r cyllid llawn – gan adael diffyg o £72 miliwn ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Wrth sôn am hyn, dywedodd Mark Isherwood AS, Aelod o'r Senedd dros y Gogledd:
“Sicrhaodd Mark Drakeford ni na fyddai'r codiadau treth hyn yn disgyn ar ysgwyddau’r sector cyhoeddus, felly roedd newyddion yr wythnos diwethaf yn chwerw a siomedig.
“Bydd awdurdodau lleol yn wynebu dewis anodd yn awr: naill ai torri gwasanaethau hanfodol neu godi'r dreth gyngor i dalu'r costau ychwanegol.
“Rwyf wedi ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor i ofyn pa effaith y bydd y bwlch cyllido hwn yn ei chael ar allu'r cyngor i gynnal gwasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol, casgliadau biniau, a chynnal a chadw ffyrdd.
“Fy ofn i yw y bydd Cyngor Sir y Fflint yn cael ei orfodi i wneud toriadau pellach, heb y cymorth hwn. Mae'r sefyllfa hon wedi codi'n gyfan gwbl oherwydd Treth Swyddi Llafur a phenderfyniad y Trysorlys sy'n gwneud cam â Chymru unwaith eto.”