Gyda hosbisau yng Nghymru yn cael llai o gyllid gan y Llywodraeth fel cyfran o'r gwariant na'r rhai yn Lloegr a'r Alban, a llawer yn "cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd", mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hosbisau a Gofal Lliniarol, Mark Isherwood, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael y gofal lliniarol sydd ei angen arnyn nhw.
Wrth siarad yn ei ddadl yn y Senedd heddiw, 'Sicrhau Gofal Hosbis yng Nghymru ar gyfer y Dyfodol', dywedodd Mr Isherwood fod hosbisau’n lleihau nifer y derbyniadau diangen i'r ysbyty, yn cefnogi rhyddhau cleifion yn amserol ac effeithlon ac yn ysgafnhau'r pwysau ar feddygon teulu, Nyrsys Ardal a thimau gofal cymdeithasol, a mynegodd bryder, er gwaethaf maint ac arwyddocâd eu cyfraniad, fod Hosbisau yn parhau i ddibynnu'n fawr ar roddion elusennol.
Meddai:
“Ar gyfartaledd, mae bron i 70 y cant o gost darparu gwasanaethau hosbis yng Nghymru yn cael ei thalu drwy godi arian. Gyda'i gilydd, mae hosbisau'n buddsoddi oddeutu £30 miliwn o arian elusennol yn y system iechyd a gofal yng Nghymru bob blwyddyn.
“Dros y 25 mlynedd nesaf, rhagwelir y bydd yr angen am ofal lliniarol yn cynyddu oddeutu 25 y cant. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei achosi gan boblogaeth sy'n heneiddio, cymhlethdod cynyddol cyflyrau meddygol, ac anghydraddoldebau iechyd sy'n dyfnhau.
“Canfu ymchwil gan Brifysgol Bangor y llynedd fod y gost gymedrig i glaf hosbis sy'n aros am 14 diwrnod yn £5,708, o gymharu â £6,860 ar gyfer yr opsiwn rhataf mewn ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod modd cyflawni arbedion sylweddol o ran gwariant cyhoeddus drwy gynyddu'r defnydd o ofal hosbis, lle mai dim ond 30 y cant oedd lefel y cyllid statudol fel cyfran o wariant gofal hosbis ledled Cymru, ac mae Hosbis Dewi Sant yn datgan mai dim ond 24 y cant y maent hwy'n ei gael.”
“Ymhellach, er gwaethaf yr addewid o gyfran o'r £3 miliwn a ddyrannwyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, nid yw'r ddwy hosbis plant yng Nghymru, Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan, wedi cael gwybod beth fydd y dyraniad hwnnw na pha bryd y maent yn debygol o'i gael. Er mwyn diwallu anghenion y nifer cynyddol o blant yng Nghymru sydd â chyflwr sy'n cyfyngu ar eu bywydau neu sy'n byrhau eu bywydau, maent yn galw am setliad cyllid cynaliadwy wedi'i glustnodi, gan ddechrau ar 25 y cant o'u costau gofal yn 2025 ac yn codi 1 y cant yn flynyddol i 30 y cant yn 2030—sy'n dal i fod islaw'r cyfartaledd presennol ar gyfer hosbisau oedolion yng Nghymru.
“Er gwaethaf pecynnau cymorth untro gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a oedd i'w croesawu, mae hosbisau'n parhau i wynebu heriau difrifol o ran cynaliadwyedd. Nid yw'r rhain yn heriau haniaethol; maent yn real, yn uniongyrchol ac yn peri cryn bryder. Maent yn ymrafael ag effaith ariannol cynnydd blynyddol yr 'Agenda ar gyfer Newid', a fydd yn arwain at gynnydd o 3.6 y cant mewn costau staffio ar gyfer 2025-26, a'r cynnydd i yswiriant gwladol, gydag effaith amcangyfrifedig o £1.3 miliwn ar gyfer yr un cyfnod. Ac mae hyn oll yn cael ei waethygu gan y cynnydd mewn costau byw, sy'n effeithio ar staff, cleifion a'r gallu i godi arian.”
“O ganlyniad, mae hosbisau'n rhagweld cyllidebau diffyg ar gyfer 2025-26. Mae llawer yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd, gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â diffyg arian, lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol, lleihau gwasanaethau cymorth hosbis ehangach, gohirio recriwtio ac ôl-lenwi swyddi gwag, a gohirio cynlluniau i gyflwyno neu ehangu gwasanaethau. Wrth edrych ymlaen, mae mwyafrif helaeth yr hosbisau yng Nghymru yn dweud bod pwysau staffio a chostau yn debygol iawn o arwain at ostyngiad mewn rhai gwasanaethau.”
“Amlygwyd hynny ym mis Gorffennaf pan gyhoeddwyd y byddai pedwar gwely cleifion mewnol yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi yn cau dros dro o fis Hydref 2025. Cyn y cyhoeddiad, cysylltodd hosbis Dewi Sant â mi yn gyfrinachol, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol, i rannu eu bod wedi cael eu gorfodi i oedi gweithgarwch yn eu hosbis cleifion mewnol pedwar gwely yng Nghaergybi gan ei bod wedi dod yn gynyddol heriol i barhau i gynnig eu holl wasanaethau oherwydd costau cynyddol ac incwm is. Roeddent eisoes wedi gwneud gostyngiadau sylweddol mewn costau ac wedi gwneud toriadau, ond eto roeddent wedi cyrraedd sefyllfa anghynaliadwy.”
Ychwanegodd:
"Ar y cyfan, mae Hosbisau yng Nghymru yn cael llai o gyllid y Llywodraeth fel cyfran o'r gwariant na'r rhai yn Lloegr a'r Alban. Rhaid mynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn.
"Nid moethusrwydd yw gofal hosbis, mae'n angenrheidiol. Gadewch i ni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael y gofal lliniarol sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw, gyda pharch, tosturi a'r sicrwydd y byddan nhw a'u teuluoedd yn cael eu trin â gofal ac urddas yn eu dyddiau olaf."