Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Mark Isherwood AS – Ailwampio'r Cynllun Bathodyn Glas i gael gwared ar rwystrau

  • Tweet
Dydd Mercher, 22 Hydref, 2025
  • Local News
Mark Isherwood AS – Ailwampio'r Cynllun Bathodyn Glas i gael gwared ar rwystrau

Mae’r AS dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi galw heddiw ar i Lywodraeth Cymru wasanaethu unigolion anabl a gofalwyr ledled Cymru yn well drwy newid y Cynllun Trwyddedau Parcio Bathodyn Glas presennol yng Nghymru.

Mae Mr Isherwood wedi bod yn tynnu sylw at y problemau sy’n wynebu trigolion anabl yn y Gogledd wrth wneud cais am Fathodynnau Glas a'u cadw, ac mae’n galw am weithredu i fynd i'r afael â nhw.

Wrth godi'r mater yn y Senedd eto heddiw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS, dywedodd:

Yn gynharach y mis hwn, yn ei ymateb diweddaraf i fy ngohebiaeth ar ran etholwr ynghylch y cynllun bathodyn glas, eglurodd yr Ysgrifennydd trafnidiaeth, unwaith eto, fod awdurdodau lleol yn gweinyddu'r cynllun gan ddefnyddio canllawiau a phecyn cymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, dehongliad anghyson o'r brig i lawr gan awdurdodau lleol o'r canllawiau hyn sy'n arwain dro ar ôl tro at wrthod neu wrthod adnewyddu bathodyn glas i ymgeiswyr anabl.

Mae gwrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu bathodyn gydol oes i'r rheini â chyflyrau gydol oes nad ydynt yn gwella yn groes i resymeg ac yn gwrthbrofi honiad Llywodraeth Cymru eu bod yn hyrwyddo'r model cymdeithasol o anabledd.

Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd, felly, i sicrhau y rhoddir sylw priodol i ganfyddiadau'r arolwg rhanddeiliaid a gynhaliwyd yr haf hwn gan gwmni buddiant cymunedol STAND North Wales, a gafodd 636 o ymatebion o 20 sir yng Nghymru mewn dim ond 25 diwrnod, ac a ganfu:

'Mae’r system Bathodyn Glas bresennol yng Nghymru yn creu rhwystrau yn hytrach na'u dileu, gan weithio’n groes i amcanion y ddeddfwriaeth hawliau pobl anabl'?

Argymhellodd newidiadau, gan gynnwys bathodyn gydol oes, i wasanaethu unigolion anabl a gofalwyr ledled Cymru yn well a chyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol a moesol Llywodraeth Cymru. Hoffwn glywed a fyddwch chi'n rhoi sylw i hynny.

Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion o adolygiad y rhaglen ymchwil fewnol o'r cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 21 Mai.

Ychwanegodd:

Nod yr adolygiad oedd asesu cryfder y cynllun ac archwilio a ellid ymestyn meini prawf cymhwysedd, yn enwedig ar gyfer unigolion â chyflyrau gydol oes. Credaf mai'r pwynt hollbwysig, fel y gwyddoch, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnull grŵp arbenigol, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i archwilio pob opsiwn i rannu data'n well ac i leihau'r baich sy'n wynebu pobl ag angen gwirioneddol am y lleoedd parcio hygyrch y gall y bathodyn glas eu cynnig.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:

"I lawer o oedolion a phlant anabl, a'u teuluoedd, mae cael Trwydded Parcio Bathodyn Glas yn allweddol i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yng nghanol trefi a gwneud y mwyaf o'u hannibyniaeth. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet eisiau 'archwilio pob opsiwn' gyda'r arbenigwyr go iawn, dylai wneud yr hyn mae STAND North Wales CIC wedi'i wneud - a gofyn iddyn nhw."

 

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Dydd Mercher, 3 Rhagfyr, 2025
Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pryd y bydd yn ymyrryd i atal camdriniaeth pobl anabl.Wrth ymateb i Ddatganiad ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree