Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Mark Isherwood AS: Cefnogi Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru

  • Tweet
Dydd Iau, 29 Ionawr, 2026
  • Local News
Mark Isherwood AS: Cefnogi Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru

Yn dilyn ymweliadau â Cholegau a Phrifysgolion yn y Gogledd yn ystod y misoedd diwethaf, mae AS y rhanbarth, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru, sy'n ceisio adeiladu system addysg drydyddol fwy cydlynol, cynhwysol a chysylltiedig sy'n gwasanaethu dysgwyr, cymunedau a diwydiannau ar bob lefel yn well.

Ers ei lansio yr haf diwethaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, mae'r Gynghrair yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai.

Yng nghyfarfod y Senedd ddoe yn ystod Cwestiynau Addysg, pwysleisiodd Mr Isherwood nod y Gynghrair o weithredu fel pont hanfodol rhyngddyn nhw a'r diwydiant lleol, a gofynnodd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w helpu i wneud hyn.

Meddai:

“Ym mis Hydref, ymwelais â champws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria a champws Llandrillo Menai yn y Rhyl gyda ColegauCymru.

“Yng Ngholeg Cambria, cyfarfûm â phrentisiaid adeiladu a phrentisiaid peirianneg cerbydau modur, gyda thrafodaethau'n cynnwys y gostyngiad yn y niferoedd sy'n dechrau prentisiaethau adeiladu a nodwyd gan Medr ac arallgyfeirio'r coleg i beirianneg hydrogen cerbydau modur.

“Roedd fy ymweliad â Grŵp Llandrillo Menai yn y Rhyl yn cynnwys cyfarfod â phrentisiaid gwynt ar y môr RWE, yn union fel y clywsom, a esboniodd y pecyn o gymorth a gawsant yn bersonol gan RWE.

“Cyfeiriwyd yn y ddau ymweliad, ac yn fy ymweliad â Phrifysgol Wrecsam yr wythnos diwethaf i weld eu canolfan newydd drawiadol ar gyfer peirianneg ac arloesedd ac i drafod cynlluniau cyffrous ar gyfer eu porth busnes newydd, fel y gwnaethoch chi, at Gynghrair Trydyddol Gogledd Cymru rhwng y ddau goleg a'r ddwy brifysgol yng ngogledd Cymru, i gryfhau datblygu sgiliau, twf economaidd a chyfleoedd bywyd yn rhanbarth gogledd Cymru.

“Sut ydych chi felly'n cefnogi eu nod i hyn weithredu fel pont hanfodol rhyngddynt a'r diwydiant lleol?”

Wrth ymateb, diolchodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vicki Howells, i Mr Isherwood "a'r gydnabyddiaeth i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y sector addysg drydyddol yng ngogledd Cymru, drwy Gynghrair Trydyddol Gogledd Cymru, ar ystod o wahanol gyrsiau a chyfleoedd i ddysgwyr o bob oed sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'r cyfleoedd hyn gyda Wylfa, gyda'r ardal twf deallusrwydd artiffisial a chyda'r datblygiad gwynt ar y môr arnofiol hefyd”.

Ychwanegodd:

“Rwy'n credu mai'r enghraifft gliriaf o'r gefnogaeth a rown nawr yw drwy'r ford gron a ddaeth â'r holl bartneriaid hynny at ei gilydd, gyda busnesau a chyrff fel Uchelgais Gogledd Cymru a'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol, i gael ffocws cadarn ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i'w cyflawni”.

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Dydd Iau, 29 Ionawr, 2026
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â chynigion o’r newydd ar gyfer uno'r Heddluoedd ac yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.Wrth siarad yn y Senedd ddoe yn ystod Cwestiwn Amserol ar Ddiwygio'r Heddlu, cyfeiriodd Mr Isherwood at y craffu manwl a fu ar y cynnig

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2026 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree