Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi comisiynu clinigwyr yn breifat o rannau eraill o'r DU i "ystwytho dros dro y ffigurau rhestr aros a oedd yn codi cywilydd gwleidyddol".
Wrth ymateb i'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Amseroedd Aros y GIG yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, pwysleisiodd Mr Isherwood nad yw'r dull hwn yn helpu yn y tymor hir a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwasanaethau yn lle hynny i atal yr argyfyngau rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Meddai:
“Yn eich datganiad, dywedoch chi fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fwy i'w wneud o hyd yn y gogledd i gyflawni ei gynllun i ostwng amseroedd aros hir, ond bod cynnydd wedi bod yma hefyd.”
“Dywedodd uwch glinigwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthyf bythefnos yn ôl, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru, bod y bwrdd iechyd unwaith eto yn comisiynu clinigwyr yn breifat o rannau eraill yn y DU i ddarparu clinigau gyda'r nos a phenwythnos gan ystwytho dros dro y ffigurau rhestr aros a oedd yn codi cywilydd gwleidyddol. Rydw i wedi mynychu un o'r clinigau hynny fy hun ar fore Sadwrn.
“Yn hytrach nag ymateb yn adweithiol i argyfwng, oni fyddai'n well gwneud hyn yn agored ac yn rhagweithiol er mwyn atal yr argyfyngau rhag digwydd yn y lle cyntaf?”
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn deall y cwestiwn. Y ffocws sydd gan y Llywodraeth, fel yn achos y bwrdd iechyd yn y gogledd, yw sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl.
“Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am gefnogi'r bwrdd iechyd i wneud hynny a herio'r bwrdd iechyd lle nad yw hynny'n digwydd. Rwy'n siŵr bod eich etholwyr eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl ar gyfer y triniaethau sydd eu hangen arnynt. Dyna beth rydym ni'n ei ddisgwyl fel Llywodraeth a dyna beth mae'r bwrdd iechyd yn gweithio arno er mwyn ei gyflawni.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae rhagrith pur yr arfer hwn yn datgelu'r difrod a achosir dro ar ôl tro gan ymagwedd ideolegol Llywodraeth Lafur Cymru at ddarparu gwasanaethau a'u hunan-ddiddordeb sinigaidd wrth ddelio â'r canlyniadau."