Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

  • Tweet
Dydd Iau, 29 Ionawr, 2026
  • Local News
Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â chynigion o’r newydd ar gyfer uno'r Heddluoedd ac yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.

Wrth siarad yn y Senedd ddoe yn ystod Cwestiwn Amserol ar Ddiwygio'r Heddlu, cyfeiriodd Mr Isherwood at y craffu manwl a fu ar y cynnig i uno’r Heddluoedd yng Nghymru ugain mlynedd yn ôl y bu’n rhan ohono ac a arweiniodd at Ysgrifennydd Cartref Llafur yn tynnu’r cynigion yn ôl 2007 ledled Cymru a Lloegr.

Pwysleisiodd Mr Isherwood y dylai'r ffocws fod ar y gostyngiad pryderus yn niferoedd swyddogion yr heddlu yn hytrach nag ystyrioed uno'r heddluoedd.

Meddai:

“Roeddwn yn aelod o is-bwyllgor Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio'r Cynulliad, a wnaeth y gwaith craffu manwl i ystyried uno heddluoedd yng Nghymru fel yr argymhellid ar y pryd ddau ddegawd yn ôl, a arweiniodd at droi cefn ar uno heddluoedd gan Ysgrifennydd Cartref Llafur ledled Cymru a Lloegr.

“Nododd ein hadroddiad hefyd fod yn rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol.

“Wel, ychydig sydd wedi newid yng nghyd-destun strwythur neu weithrediadau'r heddlu ers hynny.

“A phan ymwelais ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin y Deyrnas Unedig—cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd gogledd-orllewin Lloegr—roeddent yn dweud wrthyf fod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas wedi cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn ei adroddiad, a fethodd gyfeirio at y cydweithio hirsefydledig a dwfn gyda heddluoedd cyfagos ar draws y ffin droseddu a chyfiawnder anweledig dwyrain-gorllewin â Lloegr. Mae hyn hefyd ar goll yn adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

“Gan nodi bod y ffeithiau hyn yn wahanol iawn i'r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, onid oedd methiant Ysgrifennydd Cartref y DU i gytuno â datganoli plismona i Gymru yn amlwg yn gywir felly, ac oni ddylem fod yn fwy pryderus fod niferoedd yr heddlu wedi disgyn o'r nifer uchaf erioed ar ddiwedd mis Mawrth 2024?”

Wrth siarad y tu allan i'r cyfarfod, ychwanegodd:

"Ar ôl etifeddu’r toriadau i Gyllideb yr Heddlu yn 2014 a gyhoeddwyd yn Natganiad Cyllideb Llafur y DU ym mis Mawrth 2010, a ddywedodd fod graddfa'r diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian, aeth Llywodraethau Ceidwadol y DU ati wedyn i fuddsoddi mewn cynyddu niferoedd swyddogion yr Heddlu."

 

 

 

 

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Cefnogi Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru

Mark Isherwood AS: Cefnogi Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru

Dydd Iau, 29 Ionawr, 2026
Yn dilyn ymweliadau â Cholegau a Phrifysgolion yn y Gogledd yn ystod y misoedd diwethaf, mae AS y rhanbarth, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru, sy'n ceisio adeiladu system addysg drydyddol fwy cydlynol, cynhwysol a chysylltiedig sy'n gwasanaeth

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2026 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree