Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Mark Isherwood: A fydd Cynllun Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth?

  • Tweet
Dydd Mercher, 14 Ionawr, 2026
  • Local News
Mark Isherwood: A fydd Cynllun Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth?

Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi codi pryderon unwaith eto na fydd Cynllun Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r hyn yr oedd wedi'i fwriadu.

Cyhoeddwyd y strategaeth deng mlynedd ar 15 Ragfyr y llynedd ac, yng nghyfarfod y Senedd heddiw, dywedodd Mr Isherwood fod llawer o'r manylion ynglŷn â sut y bydd yn cyflawni'r hyn y cafodd ei chynllunio ar ei gyfer heb ei gynnwys yn y Cynllun o hyd.

Wrth herio Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt AS, dywedodd:

“Er ichi ddweud, pan gyhoeddoch chi'r 'Cynllun hawliau pobl anabl 2025 i 2035' terfynol ar 15 Rhagfyr, ei bod yn hanfodol, er mwyn sicrhau cynnydd ystyrlon i bobl anabl, 'ein bod ni a gweinyddiaethau'r dyfodol yn cael ein dal i gyfrif am gyflawni camau gweithredu a chanlyniadau clir a mesuradwy sy'n gwella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru', a bod y cynllun ei hun yn nodi ei fod yn datgan bwriad i gyflawni newid gwirioneddol, mesuradwy ar draws ystod o feysydd polisi sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl anabl yng Nghymru, mae'r manylion am hyn yn dal ar goll.

"Sut, felly, y mae'r cynllun a gyhoeddwyd yn mynd i'r afael â'r datganiadau blaenorol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod y cynllun drafft yn brin o ganlyniadau clir, mesuradwy, camau gweithredu o fewn amser penodol a mecanweithiau atebolrwydd, a chan sefydliadau pobl anabl a gynrychiolir yn eich tasglu hawliau pobl anabl, ei bod yn anodd iawn gweld, heb gyllid a thargedau clir, cadarn i weithredu'r cynllun, sut y bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl yng Nghymru?”

Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Fel y dywedais, mae hwn yn gynllun 10 mlynedd. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, ac mae gennyf gyfle i roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr, yw bod pobl anabl eisiau monitro sut y caiff y cynllun hwn ei roi ar waith. Mae hynny'n cynnwys gwaith trawslywodraethol, ac mae'n amlwg yn cynnwys ymrwymiadau ariannol a wnaed, a gwelsoch hynny yn fy natganiad llafar ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl. Felly, rydym yn sefydlu bwrdd cynghori annibynnol allanol i chwarae rhan allweddol yn llunio cyfeiriad, monitro cynnydd a chynyddu effaith y cynllun i'r eithaf.”

Meddai Mr Isherwood y tu allan i’r cyfarfod.

"Roedd y Cynllun hwn yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau Pobl Anabl ledled Cymru. Felly, mae'n hynod siomedig nad yw'n ymddangos bod y Cynllun yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Yn hytrach, mae’n cyfeirio at ddatblygiad ‘Damcaniaethau Newid’, neu 'fodelau rhesymeg', ac yn nodi bod fframwaith mesur trosfwaol yn cael ei ddatblygu i ddangos tystiolaeth o gynnydd a chyfeiriad y newid ar draws meysydd allweddol y Cynllun. Iaith fel hyn sy'n dinistrio ffydd mewn Llywodraethau a Gwleidyddiaeth."


 

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Mark Isherwood AS: Craffu yn y gorffennol yn codi pryderon am gynigion plismona

Dydd Iau, 29 Ionawr, 2026
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon difrifol ynglŷn â chynigion o’r newydd ar gyfer uno'r Heddluoedd ac yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.Wrth siarad yn y Senedd ddoe yn ystod Cwestiwn Amserol ar Ddiwygio'r Heddlu, cyfeiriodd Mr Isherwood at y craffu manwl a fu ar y cynnig

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2026 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree