Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd i fynd i'r afael â'r diffyg cynnydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth ddatblygu cyfleusterau gofal iechyd mawr eu hangen yn y Gogledd.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yng nghyfarfod y Senedd ddoe, dywedodd Mr Isherwood fod cleifion a meddygon teulu yn Waunfawr, Gwynedd, a Hanmer, Wrecsam, yn teimlo rhwystredigaeth oherwydd yr oedi hir, a phwysleisiodd eu bod yn ychwanegu at y prinder Gofal Sylfaenol ac yn effeithio ar adrannau damweiniau ac achosion brys y rhanbarth.
Dywedodd:
“Mae rhwystredigaeth a dicter cyfiawn wedi'u mynegi am y diffyg cynnydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â datblygu meddygfa bwrpasol newydd gyda gwell mynediad, parcio a gofod cymunedol yn Waunfawr, Gwynedd, i gymryd lle'r safle cyfyng ac anaddas presennol.
“Mae hwn yn fater sy'n codi drwy'r rhanbarth, ac fe'i gwelir hefyd, er enghraifft, ym meddygfa Hanmer, de Wrecsam, sy'n parhau i ymladd brwydr debyg fwy nag 11 mlynedd ar ôl i'r adeilad presennol gael ei ddatgan yn anaddas i'r diben.
“Mae'r oedi, yr esgusodion a'r camgymeriadau y tu ôl i hyn yn ychwanegu at y prinder gofal sylfaenol yng ngogledd Cymru a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar adrannau damweiniau ac achosion brys y rhanbarth. Yn y cyfamser, mae toriadau i welyau cymunedol wedi gwaethygu oedi, derbyniodd y bwrdd iechyd fwy o adroddiadau am farwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi gan y crwner nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, ac mae ganddo nifer uwch o achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion nag unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru.
“Mae grŵp o feddygon a nyrsys wedi ymddeol yn ymgyrchu i geisio gwrthdroi'r sefyllfa ddiangen bresennol gyda chynigion y gellir eu cyflawni, gan gynnwys dod â gwelyau cymunedol yn ôl. Pryd, os byth, y gwnewch chi ymyrryd a siarad a gweithio gyda'r meddygon hyn sydd wedi ymddeol, a'r meddygon teulu yn Waunfawr a Hanmer, i ddeall a gweithredu'r atebion sydd eu hangen?
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:
“Yr ateb sydd ei angen yw darparu gwasanaethau integredig ar lefel gymunedol mewn ffordd y byddai'r bwrdd iechyd eisiau ei gweld, ac yr ydym ni yn sicr eisiau ei gweld fel Llywodraeth Cymru. Fel y soniais yn gynharach, mae 38 o brosiectau wedi'u cymeradwyo ar gyfer cyllid cyfalaf. Mae 15 o'r 38 prosiect yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n awgrymu lefel sylweddol o fuddsoddiad yn yr union fath o gyfleusterau y mae'r Aelod yn dweud ei fod yn dymuno gweld mwy ohonynt..”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae'r ddau bractis hyn a'u cleifion wedi aros yn ddigon hir ac yn haeddu datrysiad. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda meddygon teulu, clinigwyr a chymunedau i wireddu cynlluniau sydd wedi'u gohirio ers amser maith."