Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i roi terfyn ar "yr oedi a'r esgusodion" a darparu'r meddygfeydd teulu y mae staff gofal sylfaenol a chleifion yng nghymunedau’r Gogledd wedi bod yn galw amdanyn nhw ers tro byd.
Wrth holi'r Prif Weinidog yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, beirniadodd Mr Isherwood y diffyg gweithredu wrth fwrw rhagddi â'r gwaith o ddatblygu meddygfeydd pwrpasol newydd yn Waunfawr, Arfon, a Hanmer, De Wrecsam, a gofynnodd i Eluned Morgan AS beth fydd ei Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo datblygiad capasiti gofal iechyd cymunedol yng ngweddill tymor y Senedd.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Wrth holi'r Ysgrifennydd Iechyd yma ym mis Tachwedd, tynnais sylw at y rhwystredigaeth a'r dicter a fynegwyd ynghylch y diffyg cynnydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran datblygu meddygfa bwrpasol newydd yn Waunfawr, Arfon, i ddisodli'r adeilad cyfyng ac anaddas presennol. Rwy'n credu bod hwn yn fater ar draws y rhanbarth cyfan a ailadroddwyd, er enghraifft, ym Meddygfa Hanmer, de Wrecsam, sy'n parhau i ymladd brwydr debyg fwy nag 11 mlynedd ar ôl i'r adeilad presennol gael ei ddatgan yn anaddas i'r diben. Y cwbl y mae'r oedi, yr esgusodion a'r camgymeriadau y tu ôl i hyn yn ei wneud yw ychwanegu at y prinder gofal sylfaenol yn y gogledd, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar adrannau damweiniau ac achosion brys y rhanbarth.’
“Er i greu meddygfa newydd trwy gamau damcaniaethol blaengar gael ei gynnig mewn cyfarfod dilynol rhwng y bwrdd iechyd a Meddygfa Hanmer, mynegwyd pryder i mi y gallai hyn unwaith eto fod yn aflwyddiannus oherwydd, ac rwy'n dyfynnu, 'meddwl anhyblyg a gweithdrefnau gweinyddol anhyblyg' y bwrdd iechyd.
“Pryd, os byth, yn ystod yr ychydig wythnosau sydd ganddi'n weddill, wnaiff eich Llywodraeth sicrhau ymgysylltiad gweithredol ag ymarferwyr gofal sylfaenol, grwpiau cleifion a chyrff proffesiynol i gyflawni o ran eu galwadau seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu capasiti cymunedol yng ngogledd Cymru?”
Yn ei hymateb, methodd y Prif Weinidog ag ateb cwestiwn Mr Isherwood ac, yn hytrach, cyfeiriodd at y ffaith bod hyn “oherwydd bod y cyllid ychwanegol hwnnw wedi mynd i mewn gan Lywodraeth Cymru.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, ychwanegodd Mr Isherwood:
"Y gwir amdani yw mai Llywodraeth Cymru oedd yr unig Lywodraeth yn hanes y DU erioed i dorri Cyllideb y GIG mewn termau real.
"Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae'r Meddygfeydd hyn a'u cleifion wedi aros yn ddigon hir ac yn haeddu datrysiad.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n adeiladol gyda meddygon teulu, clinigwyr a chymunedau i wireddu cynlluniau sydd wedi bod yn yr arfaeth ers tro byd."