Mae’r AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol, Mark Isherwood, wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y bydd eu lefelau isel o gyllid Hosbis yng Nghymru yn costio mwy iddyn nhw yn y pen draw. Galwodd hefyd am gyllid cynaliadwy ar unwaith ar gyfer hosbisau ledled Cymru.
Wrth siarad yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Hosbisau heddiw, cyfeiriodd Mr Isherwood at yr "ymroddiad diwyro" y mae'r pymtheg hosbis elusennol yng Nghymru yn ei ddarparu i fwy na 20,000 o oedolion a phlant sy'n byw gyda salwch terfynol bob blwyddyn, ond dywedodd er gwaethaf eu cyfraniad aruthrol, mae'n rhaid iddyn nhw ddibynnu'n helaeth ar godi arian elusennol, gyda bron i 70 y cant o gostau gofal hosbis yn cael eu talu trwy roddion.
Meddai:
“Mae hosbisau Cymru'n buddsoddi tua £30 miliwn o gyllid elusennol yn y system iechyd a gofal bob blwyddyn.
“Wrth edrych ymlaen, rhagwelir y bydd y galw am ofal hosbis a gofal lliniarol yn cynyddu tua 25 y cant dros y 25 mlynedd nesaf, wedi'i yrru gan boblogaeth sy'n heneiddio, cyflyrau meddygol cynyddol gymhleth ac anghydraddoldebau iechyd sy'n ehangu.
“Er iddynt gael addewid o gyfran o'r £3 miliwn a ddyrannwyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, ym mis Tachwedd roedd dwy hosbis plant Cymru, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, yn dal i aros i gael cadarnhad o'u dyraniad, neu pryd y byddent yn ei dderbyn.
“Er mwyn ateb yr angen cynyddol, maent yn galw am gyllid cynaliadwy wedi'i glustnodi, gan godi i 30 y cant o'r costau gofal erbyn 2030, sy'n dal i fod yn is na'r cyfartaledd ar gyfer hosbisau oedolion.”
Ychwanegodd:
“Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer hosbisau oedolion a phlant yn Lloegr, sy'n llawer iawn mwy na chyllid hosbis Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru, lle mae gofal iechyd yn cael ei symud allan o'r gymuned i ysbytai, yn uniongyrchol groes i bolisi datganedig Llywodraeth Cymru.
“Bydd gwariant is ar gyllid hosbis yng Nghymru yn costio mwy i Lywodraeth Cymru.
“Erbyn y 2040au, amcangyfrifir y bydd angen gofal lliniarol neu ofal diwedd oes ar 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, gyda'r galw'n cynyddu'n sylweddol, ond mae hosbisau'n parhau i wynebu heriau cynaliadwyedd difrifol, gyda chostau staffio cynyddol yn cael eu gosod drwy'r 'Agenda ar gyfer Newid' a chynnydd i yswiriant gwladol, ynghyd â'r cynnydd mewn costau byw, gan adael hosbisau yn rhagweld diffygion ar gyfer 2025-26.
“Fel roeddent yn rhybuddio, mae llawer bellach yn wynebu penderfyniadau anodd, gan dynnu ar gronfeydd wrth gefn, lleihau nifer y gwelyau i gleifion mewnol, torri gwasanaethau, oedi recriwtio, lleihau gwasanaethau presennol a gohirio cynlluniau i ehangu neu gyflwyno gwasanaethau newydd.
“Dangoswyd hyn yn glir pan gaeodd pedwar gwely lloeren i gleifion mewnol yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi.
“Fe wnaethant ddweud wrthyf fod hyn wedi cael ei orfodi arnynt gan gostau cynyddol ac incwm sy'n gostwng, er eu bod wedi torri costau'n sylweddol, a'u bod bellach yn mynd i mewn i sefyllfa anghynaliadwy, gan roi'r elusen gyfan mewn perygl.
“Dywedodd Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam nad yw'r model cyllido presennol yn diogelu gofal hosbis yn y dyfodol, ac nad yw'r gwaith y mae hosbisau'n ei wneud yn cael ei gydnabod.
“Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno fframwaith comisiynu newydd erbyn mis Ebrill, fel y nodwyd, ond mae'n digwydd yn rhy hwyr, ar ddiwedd tymor y Senedd.
Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor yn dangos bod arhosiad 14 diwrnod mewn hosbis yn costio £5,708, o'i gymharu â £6,860 ar gyfer yr opsiwn rhataf mewn ysbyty, gan sicrhau arbedion sylweddol i wariant cyhoeddus.
“Ond mae cyllid Llywodraeth Cymru oddeutu 30 y cant ar gyfartaledd o gostau hosbis ledled Cymru.
“Er bod hosbisau'n parhau i fod yn ymrwymedig i godi arian elusennol, rhaid mynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn os yw eu gofal clinigol allweddol i barhau”
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Mr Isherwood:
"Mae angen cyllid cynaliadwy brys ar ein hosbisau, a dyna pam y byddai Cyllidebau Llywodraeth Ceidwadwyr Cymreig wedi’u hariannu’n llawn yn buddsoddi £40 miliwn ychwanegol mewn Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol yng Nghymru dros dymor 4 blynedd nesaf y Senedd, ac yn talu 50% o gostau gweithredu Hosbisau Plant Cymru.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob person yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y gofal lliniarol sydd ei angen arno, pan fydd ei angen arno, gyda pharch, tosturi ac urddas, gan roi pobl yn gyntaf."